Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w
cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y gallai'r Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12
Tachwedd gael ei gohirio. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 12 Tachwedd 2014 ·
Amser a neilltuwyd
i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes lythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch diwygio Rheol
Sefydlog 22.5. Mae'r llythyr yn amlinellu barn y Pwyllgor, sef y dylid caniatáu
dirprwyo mewn achosion lle gall Aelod fod yn gysylltiedig â chŵyn er nad cŵyn
benodol yn ei erbyn ef ydyw. Dylai'r
Cynulliad gytuno ar yr 'aelod amgen' hwn ac ethol aelod parhaol y Pwyllgor ar
yr un pryd. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i dderbyn argymhelliad y Pwyllgor Safonau bod y
Rheolau Sefydlog yn cael eu diwygio. Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno cynigion manwl i'r Rheolwyr Busnes i'w hystyried
mewn cyfarfod yn y dyfodol. |