Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y gallai'r Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12 Tachwedd gael ei gohirio.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 12 Tachwedd 2014

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

4.

Y Rheolau Sefydlog

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch diwygio Rheol Sefydlog 22.5. Mae'r llythyr yn amlinellu barn y Pwyllgor, sef y dylid caniatáu dirprwyo mewn achosion lle gall Aelod fod yn gysylltiedig â chŵyn er nad cŵyn benodol yn ei erbyn ef ydyw.  Dylai'r Cynulliad gytuno ar yr 'aelod amgen' hwn ac ethol aelod parhaol y Pwyllgor ar yr un pryd. 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i dderbyn argymhelliad y Pwyllgor Safonau bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu diwygio.

 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno cynigion manwl i'r Rheolwyr Busnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.