Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Mewn ymateb
i ymholiad Elin Jones yn y cyfarfod diwethaf, rhoddodd y Gweinidog Cyllid a
Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gyfrifoldebau'r
Dirprwy Weinidog Iechyd. Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Mae'r
Llywodraeth wedi symud y ddwy sesiwn Cwestiynau Llafar y Cynulliad a drefnwyd
yn wreiddiol ar gyfer dydd Mercher 15 Hydref i ddydd Mawrth 14 Hydref. Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), penderfynodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn busnes trwy gyfrwng pleidleisio wedi'i bwysoli.
Pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru o blaid symud busnes 15 Hydref i
gyfarfodydd eraill oherwydd y gweithredu diwydiannol disgwyliedig gan staff y
Comisiwn a staff Llywodraeth Cymru, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn symud y busnes. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mawrth
21 Hydref 2014 - ·
Dadl ar
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud) - eitem wedi'i
symud o 15 Hydref. ·
Dadl Fer -
Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref. Dydd
Mercher 22 Hydref 2014 - ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref. Dydd
Mercher 5 Tachwedd 2014 - ·
Cwestiynau
i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) ·
Adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i
Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer -
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes na chafodd unrhyw gynigion eu cyflwyno gan Aelodau unigol ar
gyfer dadl ar 15 Hydref. Oherwydd y gweithredu diwydiannol a drefnwyd ar y
diwrnod hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes na fyddai'r eitem yn cael ei
haildrefnu. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid trefnu Dadl Aelod Unigol arall ar gyfer dydd Mercher 3
Rhagfyr 2014, gan gymryd camau i annog Aelodau i gyflwyno cynigion. |