Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth
ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am y
newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd
Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal
y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Atgoffodd y
Llywydd y Gweinidog y dylai cyhoeddiadau pwysig ar bolisi'r Llywodraeth gael eu
gwneud yn y Siambr yn gyntaf. Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 1 Hydref 2014 ·
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau’r Cynulliad Dydd Mercher 15 Hydref 2014 ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 16 Medi i gyfeirio'r Bil
Cynllunio (Cymru) i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w drafod yng
Nghyfnod 1, a chytunwyd ar 30 Ionawr 2015 fel y dyddiad cau i’r Pwyllgor
gyflwyno adroddiad ar Gyfnod 1 a 27 Mawrth 2015 fel dyddiad ar gyfer cwblhau
trafodion Pwyllgor Cyfnod 2. |
|
Unrhyw Fater Arall Trafododd y Rheolwyr Busnes Gwestiynau Llefarwyr yn sgil
eu cyflwyno'r wythnos diwethaf, gan gytuno i gadw'r fformat newydd dan sylw
dros yr wythnosau nesaf. |