Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am newidiadau i Fusnes y Llywodraeth.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer.

 

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 19 Chwefror 2014

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

·         Dadl Fer - Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

4.

Cyllideb

4(i)

Adolygiad o Broses y Gyllideb

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar welliannau posibl i broses y gyllideb yn dilyn pryderon yn ystod cylch y gyllideb yn nhymor yr hydref y llynedd nad oedd rhai meysydd polisi yn destun gwaith craffu gan unrhyw bwyllgorau.

 

Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y pum pwyllgor polisi a'r Pwyllgor Cyllid i ofyn eu barn ar unrhyw faterion sy'n codi o broses y gyllideb eleni a sut y gellid gwella'r broses yn y dyfodol.

 

5.

Deddfwriaeth

5(i)

Gweithdrefnau a threfn ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y trefniadau gweithdrefnol ac ymarferol ar gyfer y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gynhelir ddydd Mawrth 4 Chwefror a dydd Mawrth 11 Chwefror. Dosberthir nodyn i Aelodau'r Cynulliad cyn y ddadl Cyfnod 3.