Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y newidiadau ym musnes y Llywodraeth.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod wedi cytuno i gynnig i newid aelodaeth Plaid Cymru o’r Pwyllgor Cyllid (Alun Ffred Jones i gymryd lle Simon Thomas), Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Alun Ffred Jones i gymryd lle Jocelyn Davies), Y Pwyllgor Menter a Busnes (Dafydd Elis-Thomas i gymryd lle Alun Ffred Jones), a’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (Jocelyn Davies i gymryd lle Elin Jones) gael ei gymryd yn union ar ôl y Datganiad a’r Cyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer.

 

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12 Chwefror 2014 yn cael eu symud i ddydd Mercher 5 Chwefror, a chytunwyd nad oedd angen atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn i hynny ddigwydd.

 

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod y trefniadau ar gyfer Dadl Cyfnod 3 sydd ar ddod ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 12 Chwefror 2014

 

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Barthau Menter (60 munud)

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

  • Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)