Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu
cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd cynnig i newid
aelodaeth y blaid Lafur o'r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog,
sef dewis Ann Jones yn lle Ken Skates, yn cael ei
wneud ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth. Nododd y Rheolwyr
Busnes y byddai'r Llywydd yn cynnig
y dylai'r ddau gynnig ddydd Mercher
sy'n ymwneud â phenodiadau i Swyddfa Archwilio Cymru a chydnabyddiaeth ariannol ei aelodau gael eu grwpio
ar gyfer trafodaeth, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ddydd Mawrth,
byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd
i drefnu'r eitemau o fusnes a ganlyn: Dydd Mercher 23 Hydref 2013
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2013
|
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i gynnal cyfarfod oddi ar y safle Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal cyfarfod ffurfiol yn Llanfair-ym-Muallt ar
24 Hydref 2013. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Gofal Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil
Gofal. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol
at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y ddau
Femorandwm sy'n ymwneud â'r Bil Gofal erbyn 21 Tachwedd 2013, er mwyn i’r ddau
Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 26
Tachwedd 2013. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Gofynnwyd i'r
Rheolwyr Busnes atgoffa Aelodau, yn dilyn nifer
y cwestiynau sydd wedi'u tynnu'n ôl yn ddiweddar,
os bydd Aelodau'n
gwybod na fyddant yn bresennol
yn y Cynulliad ar ddiwrnod penodol,
y dylent dynnu eu henwau'n ôl
o'r balot, neu o leiaf beidio
â chyflwyno cwestiwn ar gyfer y diwrnod
hwnnw. Mae tynnu
cwestiynau'n ôl ar ôl i'r
Swyddfa Gyflwyno gynnal y balot a'r hapddewis yn
atal Aelodau eraill rhag cael
y cyfle i ofyn cwestiynau i'r Gweinidogion. |