Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd yn absenoldeb y Llywydd a oedd wedi ymddiheuro.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. Cododd William Graham y cwestiwn ynglŷn â sut mae’r Cynulliad yn ystyried deddfwriaeth, a chytunwyd i drafod y mater o dan Unrhyw Fater Arall.

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Llywydd, nododd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Dirprwy Lywydd  yn cadeirio’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth a dydd Mercher ac y byddai’r Comisiynwyr yn gweithredu fel Cadeiryddion dros dro yn ôl y galw.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â’r Bil Teithio Llesol (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3 a Chyfnod 4 ddydd Mawrth, a chytunwyd y byddai cynnig i ethol Simon Thomas (Plaid Cymru) i’r Pwyllgor Cyllid yn digwydd ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher.

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2013

 

·                     Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud) – Ail-drefnwyd o 2 Hydref  2013

 

Dydd Mercher 23 Hydref 2013

 

·                     Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref (60 munud)

 

·                     Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru (60 munud)

 

·                     Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Pwyllgorau

4(i)

Y Pwyllgor Deisebau: Cais i gynnal cyfarfod oddi ar y safle

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Desiebau i gynnal cyfarfod ffurfiol yng ngogledd Cymru ar 11 Tachwedd 2013.

5.

Deddfwriaeth

5(i)

Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

Cofnodion:

Ar 9 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor Busnes bapur Llywodraeth ar Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) a chytunodd mewn egwyddor i hepgor trafodion Cyfnod 1 gan bwyllgor, yn amodol ar weld y Bil adeg ei gyflwyniad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad i hepgor trafodion  Cyfnod 1gan bwyllgor gan bod y Bil wedi cael ei gyflwyno.

 

6.

Rheolau Sefydlog

6(i)

Dirprwyo Swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 18

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn amlinellu opsiynau ar gyfer dirprwyo swyddogaethau yn ymwneud â throsolwg o Swyddfa Archwilio Cymru o dan Reol Sefydlog 18 i bwyllgor cyfrifol.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes yr opsiynau a amlinellwyd a phenderfynwyd dirprwyo’r swyddogaethau i’r Pwyllgor Cyllid. Nododd William Graham mai sefydlu pwyllgor newydd fyddai orau gan ei grŵp ef. Bydd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes yn cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i weithredu’r penderfyniad cyn gynted ag y bydd y Cynulliad yn cytuno ar y newidiadau i Reol Sefydlog 18.

Unrhyw Fusnes Arall

Business Managers discussed the Assembly’s approach to legislation, particularly how amendments are disposed of. Business Managers agreed to keep the procedures under review.