Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerc) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Busnes Jocelyn Davies a oedd yn dirprwyo ar ran Elin Jones.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar y newidiadau i fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3 a 4 ddydd Mercher.

 

Ddydd Mawrth, dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes.

 

3(iv)

Y Bil Cartrefi Symudol (Cymru): Llythyr gan Peter Black

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Peter Black yn nodi ei fwriad i gyfeirio'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru) i'r Cyfnod Adrodd yn dilyn y ddadl Cyfnod 3 sydd wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher.

 

3(v)

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Deddfwriaeth a'r Siambr dros doriad yr haf.

 

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) at y Pwyllgor Cyllid i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i hepgor trafodion Cyfnod 1, yn amodol ar weld y Bil adeg ei gyflwyniad.  Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 8 Tachwedd 2013.

 

4(ii)

Rheoli'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar wella'r wybodaeth sydd ar gael i'r Pwyllgor Busnes wrth gyfeirio Biliau at Bwyllgorau i graffu arnynt yng Nghyfnod 1 a 2 a'r materion sy'n deillio o hynny.

 

Nododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'n edrych ar sut fyddai Gweinidogion yn rhannu gwybodaeth am Filiau gydag Aelodau yn y dyfodol.

 

Unrhyw Fusnes Arall

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddadl Cyfnod 3 wythnos diwethaf ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a chytunodd iddi ddangos y Cynulliad ar ei orau fel deddfwrfa aeddfed. Nododd y Llywydd y byddai’r arfer o beidio â glynu'n dynn at y cyfyngiad amser ar gyfer cyfraniadau Aelodau yn ystod dadleuon Cyfnod 3 yn parhau ar gyfer dadleuon Cyfnod 3 sydd i ddod.