Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cafodd y cofnodion
eu nodi gan
y Pwyllgor i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bu’r Gweinidog
Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn rhoi y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Nododd
y Rheolwyr Busnes y byddai’r Llywydd yn cynnig bod y cynnig o dan Reol
Sefydlog 26.95 fod y Bil a fydd yn
cael ei alw’n
Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn cael
ei drin fel
Bil brys y Llywodraeth a’r cynnig i gytuno ar amserlen ar
gyfer y Bil hwn yn cael
eu grwpio ar gyfer y ddadl
ond fod y pleidleisiau arnynt yn cael eu
cynnal ar wahân. Nododd y Rheolwyr
Busnes na
fyddai’r terfyn amser llym arferol
o 5 munud yn berthnasol yn y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Trawsblannu
Dynol (Cymru). Fodd bynnag, ni ddisgwylir i unrhyw Aelod siarad
am ragor na 10 munud ar unrhyw
grŵp o welliannau. Hefyd, nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau mewn perthynas â’r Bil
Trawsblannu Dynol (Cymru) yn cael
eu cynnal yn ystod trafodion
Cyfnod 3 a 4. Ddydd Mawrth,
bydd y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cafodd busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf ei nodi gan
y Pwyllgor Busnes. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefniadau o ran busnes, ac, oherwydd y newidiadau Gweinidogol, nododd na fyddai
Dadl Fer Ken Skates, a drefnwyd ar gyfer
dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013, yn mynd yn ei
blaen. |
|
Dadl gan Aelod Unigol: Dewis Cynnig i'w Drafod Cofnodion: Cafodd y cynnig
a ganlyn ei ddewis gan y Pwyllgor
Busnes ar gyfer dadl yn
y Cynulliad: Dydd
Mercher 10 Gorffennaf 2013 ·
NNDM5266 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi'r
ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar bapur
newydd The Sun i roi'r gorau i'r cynnwys
hwn. Yn y cyfarfod
ar 18 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r ddadl nesaf gan
Aelod unigol yn cael ei
chynnal ddydd Mercher 16 Hydref 2013. |
|
Trefnu busnes y Cynulliad: Bil Brys y Llywodraeth Cofnodion: Bu’r Pwyllgor
Busnes yn ystyried papur yn amlinellu opsiynau
ar gyfer trefnu busnes pe
bai’r Cynulliad yn penderfynu ymdrin
â’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) fel Bil Brys
a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig
er mwyn i'r
Cynulliad ystyried y Bil hwn. Bu’r Rheolwyr
Busnes yn ystyried yr amserlen
fusnes arfaethedig, gan gytuno y byddai
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2013 yn dechrau’n syth ar ôl i Bwyllgor
y Cynulliad Cyfan orffen ei fusnes,
yn hytrach na phennu amser
dechrau penodol. Nododd y Rheolwyr Busnes derfynau amser arfaethedig y Llywydd ar gyfer Cyfnod
2 a 3 pe bai’r amserlen arfaethedig yn cael ei
chytuno. |
|
Amserlen y Cynulliad Cofnodion: Yn dilyn
trafodaethau â’r grwpiau, bu’r Pwyllgor
Busnes yn ystyried eto y dyddiadau arfaethedig ar gyfer toriadau
rhwng Medi 2013 a Gorffennaf 2014. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ymestyn tymor yr hydref
2014 1 wythos (dyddiadau dros dro ar
gyfer y toriad: Dydd Llun 21 Gorffennaf
– Dydd Sul 14 Medi 2014). |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoli'r Rhaglen Ddeddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos
nesaf. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad Cofnodion: Bu’r Pwyllgor
Busnes yn ystyried papur ar argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei
Adroddiad ar Sancsiynau a gyhoeddwyd ar 15 Mai 2013 y dylid adolygu Rheolau Sefydlog. Bu’r Pwyllgor
Busnes yn ystyried cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 i weithredu’r argymhelliad hwn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r grwpiau a’r
Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch y cynigion, ac i ddychwelyd at y
mater yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 16 Gorffennaf 2013. |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad Deddfwriaethol i Offerynau Statudol gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat Cofnodion: Yn dilyn
trafodaethau â’r grwpiau, bu’r Pwyllgor
Busnes yn ystyried eto
papur yn cyflwyno cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 30A newydd i sefydlu gweithdrefn ffurfiol sy’n diwygio
deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Hefyd, cafodd y Rheolwyr
Busnes eu gwahodd i ystyried cynigon a amlinellwyd i ddod â Biliau Preifat
y DU o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 29. Gofynnodd y Rheolwyr
Busnes am ragor o wybodaeth am y broses yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, a byddant yn dychwelyd at y mater hwn mewn cyfarfod
yn y dyfodol. |
|
Unrhyw Fater Arall Yn dilyn
achlysur diweddar pan gollodd Aelod ddechrau
dadl yr oedd
i fod i gynnig gwelliannau ei grŵp ynddi, cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa
bod y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn bwriadu bod yn fwy llym
o ran peidio â galw Aelodau sy’n cyrraedd
yn hwyr i siarad mewn dadl. |