Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio’n cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi lle yn yr amserlen i’r eitem a ganlyn: Dydd Mercher 28
Tachwedd 2012 · Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 mewn perthynas â Chadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn (5 munud) Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
Dadl gan Aelod Unigol: Dewis cynnig i'w drafod Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl: Dydd Mercher 28 Tachwedd 2012 NNDM5096 Ken Skates (De Clwyd) Eluned Parrott (Canol
De Cymru) David Melding (Canol De Cymru) Llyr Huws Gruffydd (Gogledd
Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu; 2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu; 3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod: a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a b) un ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant; 4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y ddadl nesaf gan Aelod unigol ddydd Mercher 30 Ionawr 2013. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ynghylch y dewis gorau o ran y dewisiadau i adolygu Cwestiynau’r Cynulliad, gyda’r bwriad o’i drafod ymhellach yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 4 Rhagfyr 2012. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i ymweld ag Iwerddon Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ymweld ag Iwerddon ar 5-6 Rhagfyr 2012, ar yr amod y byddai Aelodau ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr. |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 22 Mawrth 2013. Ar yr amod bod y Bil yn cael ei gytuno arno yng Nghyfnod 1, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7 Mehefin 2013. |
|
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Gorchymyn yn ffurfiol i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried, a nododd y byddai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cyflwyno adroddiad cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y cafodd y Gorchymyn ei osod. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn: Adroddiad Drafft Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 6 mewn perthynas â Chadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn, a chymeradwyodd yr adroddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio’r Rheol Sefydlog i’r Cynulliad ei ystyried ddydd Mercher 28 Tachwedd 2012. |