Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nodwyd y
cofnodion gan y Pwyllgor ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitem o fusnes a ganlyn ddydd Mercher 9 Mai: ·
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a
Lloegr) 2012. Ddydd Mawrth a
dydd Mercher, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o funses. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cais i ymweld â Belfast ar 20-21 Mehefin 2012 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar gais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gynnal
ymweliad astudio â Belfast ar 20-21 Mehefin 2012. |
|
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cais i gyfarfod ym Mhrifysgol Glyndŵr Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar gais gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithas i gynnal
cyfarfod ffurfiol ym Mhrifysgol Glyndŵr ddydd Iau 14 Mehefin 2012. |
|
Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Biliau preifat Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes Orchmynion Sefydlog drafft ar gyfer Biliau Preifat a chytunodd
i’w trafod ymhellach mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Pwyllgor Busnes ddydd Llun 14
Mai 2012. |
|
Busnes Arall Ar gais y
Rheolwyr Busnes, cytunodd Arweinydd y Tŷ i ddarparu nodyn yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru
yn penderfynu a yw am ddefnyddio’r weithdrefn negyddol neu’r weithdrefn
gadarnhaol wrth wneud rheoliadau. |