Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cafodd y cofnodion eu nodi gan y Pwyllgor ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer. |
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen dair wythnos Busnes y Llywodraeth. |
|
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 21 Mawrth 2012 · Cynnig i ddirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholidau Cyffredin) 2012 (30 munud) Dydd Mercher 25 Ebrill 2012 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru (60 munud) Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Confensiynau Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn nodi’r confensiynau diwygiedig a ddylai gael eu cymhwyso wrth i bwyllgorau ystyried deddfwriaeth a chytunodd ar yr adroddiad. |
|
|
Busnes Arall |
|
|
Gweithredu Diwydiannol - Effaith ar fusnes ffurfiol Busnes y Cynulliad Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth bellach i’w gynlluniau wrth gefn pe bai gweithredu diwydiannol yn digwydd ar 28 Mawrth.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ y bydd y Llywodraeth yn symud y Cwestiynau i Weinidogion i ddydd Mawrth 27 Mawrth. Dywedodd William Graham mai dewis ei grŵp ef fyddai cadw at yr holl fusnes ddydd Mercher 28 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes eraill mai eu dewis hwy fyddai rhoi lle i ddwy ddadl y gwrthbleidiau mewn Cyfarfod Llawn estynedig ddydd Mawrth 27 Mawrth. Awgrymodd Arweinydd y Tŷ y gallai’r cyfarfod ddechrau yn gynt nag arfer er mwyn cynnwys yr eitemau ychwanegol hyn o fusnes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r ddadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Ddadl Fer gael eu gohirio tan ar ôl toriad y Pasg. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid neilltuo amser cyfarfod amgen i’r Pwyllgor Cyllid. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi Datganiad Busnes drafft i adlewyrchu’r trafodaethau hyn, er mwyn eu hystyried yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. |
PDF 441 KB