Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo ar ran Jocelyn Davies, a anfonodd ei ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Ddydd Mawrth,
bydd y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher.
|
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn: Dydd Mercher 28 Mawrth 2012 · Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi (60 munud) Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Sesiwn i graffu ar waith y Prif Weinidog Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes a ddylai sefydlu pwyllgor a fyddai’n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur gan yr ysgrifenyddiaeth cyn toriad y Pasg yn nodi’r opsiynau ar gyfer cylch gwaith y pwyllgor, ei faint a’r amseroedd cyfarfod arfaethedig. Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach yn ystod yr adolygiad 12 mis o strwythur y pwyllgor y tymor nesaf. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Confensiynau gweithredu pwyllgorau wrth ystyried deddfwriaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn nodi’r confensiynau a oedd ar waith ar gyfer gweithredu pwyllgorau deddfwriaeth y Trydydd Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid defnyddio’r confensiynau diwygiedig yn y Pedwerydd Cynulliad, oherwydd bod y pwyllgorau pwnc perthnasol bellach yn craffu ar Filiau. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi adroddiad drafft ar y confensiynau diwygiedig i’r Pwyllgor Busnes ei gymeradwyo yr wythnos nesaf. |
|
|
Memoranda Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau Femorandwm Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â’r Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. Cytunodd yr ysgrifenyddiaeth i hysbysu’r Rheolwyr Busnes pe bai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn penderfynu gwahodd pwyllgorau eraill i graffu ar y Gorchmynion. |
|
|
Busnes Arall Trafododd y Pwyllgor Busnes y posibilrwydd y bydd gweithredu diwydiannol ddydd Mercher 28 Mawrth 2012. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi papur ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf yn nodi’r opsiynau os bydd gweithredu diwydiannol gan PCS. |
PDF 420 KB