Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi. 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Ddydd Mawrth, byddai’r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ar gyfer dydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r pleidleisiau’n cael eu cynnal cyn y ddadl fer.

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i amserlennu’r eitem o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2012

 

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Fenter (Mohammad Asghar) (60 munud)

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.

3(iv)

Dadl gan Aelod unigol: Dethol cynnig i'w drafod

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion am ddadleuon gan Aelodau unigol, a dewisodd y cynnig a ganlyn fel dadl ar ddydd Mercher 25 Ionawr:

 

NNDM4864

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) y doreth o gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog sydd ar waith yng Nghymru;

 

b) y cyfraddau llog eithriadol o uchel mae nifer o gwmnïau o'r fath yn eu codi ar eu cwsmeriaid;

 

c) ei bod yn haws cael gafael ar fenthyciadau o’r fath drwy ffonau deallus a’r rhyngrwyd; a

 

d) y potensial i fenthyca o’r fath greu dyledion difrifol ymysg ein cymunedau tlotaf a sugno arian allan ohonynt.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd cymaint ag y bo modd i gynnig dewisiadau hyfyw eraill yn lle cwmnïau o’r fath er mwyn tynnu sylw dinasyddion at gost go iawn y benthyciadau a gynigir.

 

Gyda chefnogaeth:

Keith Davies (Llanelli)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Peter Black (Dwyrain De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

David Rees (Aberafan)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Nick Ramsay (Mynwy)

Julie James (Gorllewin Abertawe)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i amserlennu’r ddadl nesaf y drydedd wythnos ar ôl hanner tymor.

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Amserlenni busnes y Pwyllgorau: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch dyrannu ac amserlennu deddfwriaeth. Dywedodd y Llywydd y byddai’n anfon ymateb, gan amlinellu sut bydd y Pwyllgor Busnes a’r Llywodraeth yn parhau i sicrhau bod cadeiryddion pwyllgorau’n cael gwybod yn gynnar am ddeddfwriaeth sydd ar ei ffordd.

5.

Busnes Arall

5(i)

Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes: Amserlen arfaethedig

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen arfaethedig ar gyfer rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor am y misoedd i ddod. Cytunodd Rheolwyr Busnes y bydd materion gweithdrefnol yn cael eu trafod yn breifat fel rhan o gyfarfod arferol y Pwyllgor Busnes bob bore Mawrth. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Rheolwyr Busnes er mwyn dod o hyd i’r amser mwyaf cyfleus ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, a fydd mwy na thebyg ar brynhawn dydd Llun.