Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anna Daniel (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi. 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Hysbysodd Arweinydd y Tŷ y Pwyllgor fod trefn newydd ar gyfer y datganiadau llafar a’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) yng Nghyfarfod Llawn dydd Mawrth.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai Dirprwy Lywydd dros dro’n cael ei ethol ar ddechrau cyfarfod dydd Mercher, yn absenoldeb y Dirprwy Lywydd.

 

Ar ddydd Mawrth, bydd y Cyfnod Pleidleisio’n cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ar ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Cyfnod Pleidleisio'n cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

3(ii)

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf fel yr hyn a nodwyd o dan eitem 3 (iv).

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor drefn Busnes y Cynulliad fel yr hwnnw a geir o dan eitem 3 (iv). 

3(iv)

Gweithredu diwydiannol: Trefn Busnes

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ragor o ystyriaeth i’r cynllun wrth gefn a roddir ar waith os bydd gweithredu diwydiannol ar 30 Tachwedd. Cytunodd y Rheolwyr Busnes:

 

·         na fydd cyfarfod ar ddydd Mercher 30 Tachwedd;

 

·         y byddai’r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00 ar 6 Rhagfyr ac am 12.30 ar 7 Rhagfyr;

 

·         ar y trefniadau newydd ar gyfer busnes y Llywodraeth ar gyfer 29 Tachwedd, a 6 a 7 Rhagfyr; ac i

 

·         ail-drefnu’r eitemau o fusnes y Cynulliad a drefnwyd ar gyfer 30 Tachwedd ar gyfer dydd Mawrth 6 Rhagfyr a dydd Mercher 7 Rhagfyr. 

 

Nododd Arweinydd y Tŷ y byddai’r cwestiwn llafar a amserlenwyd ar gyfer 30 Tachwedd yn cael ei ofyn ddydd Mawrth 29 Tachwedd:

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)

3(v)

Dadleuon Aelodau Unigol: Dewis Cynnig i'w Drafod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion heb ddyddiad trafod gan Aelodau unigol a detholwyd y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw (Pontypridd), Nick Ramsay (Mynwy), Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru), Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru), Byron Davies (Gorllewin De Cymru), Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth), Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd), Keith Davies (Llanelli), Christine Chapman (Cwm Cynon), Lynne Neagle (Tor-faen), Eluned Parrott (Canol De Cymru) i’w drafod ddydd Mercher 7 Rhagfyr (NNDM4862).

 

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil Llywodraeth Leol (Is-ddeddfau) (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’n rhaid cyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 30 Mawrth 2012 fan bellaf. Os cytunir ar y Bil yng Nghyfnod 1, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid dwyn trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor i ben erbyn 1 Mehefin 2012.  

4(ii)

Y Bil Lleoliaeth - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau - Papur i'w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch ei ddatganiad ysgrifenedig ar y Bil Lleoliaeth.