Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Roedd Lindsay Whittle yn dirprwyo ar ran Jocelyn Davies, a anfonodd ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd Arweinydd y Tŷ y byddai’r pleidleisio ddydd Mawrth ar y gyllideb ddrafft ac ar y ddadl
ar wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn digwydd ar ddiwedd y dadleuon hynny,
yn amodol ar gadarnhad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes
y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl fer ddydd Mercher. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen tair wythnos o fusnes y Llywodraeth. |
|
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Diogelu Rhyddidau Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Diogelu Rhyddidau. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r Memorandwm i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fel y gall graffu arno cyn iddo fod yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn; y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad yw 24 Ionawr 2012. |
|
|
Busnes Arall |
|
|
Gweithredu diwydiannol - yr effaith ar fusnes ffurfiol y Cynulliad Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau wrth-gefn i sicrhau nad oes unrhyw ran o’r busnes sydd wedi’i drefnu gan y Cynulliad yn cael ei golli os oes gweithredu diwydiannol ar 30 Tachwedd. Cytunodd y Llywodraeth i ddod â’r cwestiynau llafar a ganlyn yn nes. Byddant, felly, yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 29 Tachwedd: · Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud) · Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai’r opsiwn a oedd well ganddynt oedd ymestyn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Rhagfyr a dydd Mercher 7 Rhagfyr fel bod amser i ymdrin â’r eitemau sy’n weddill o fusnes y Cynulliad a oedd i’w gynnal ar 30 Tachwedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried y cynllun wrth-gefn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf. |
PDF 54 KB