Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anna Daniel (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi. 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r bleidlais ar y ddadl gan Aelod unigol yn cael ei chynnal yn unol â’r confensiwn ar bleidleisio ar ddadleuon y gwrthbleidiau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r cyfnod pleidleisio ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.

 

3(ii)

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol yn cael eu symud o ddydd Mercher 9 Tachwedd 2011 i ddydd Mercher 16 Tachwedd, ac felly cynhelir y cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wythnos yn gynt ar ddydd Mercher 9 Tachwedd 2011.

 

Nododd y Pwyllgor amserlen fusnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi enwau’r Aelodau a fu’n llwyddiannus ym malot y Ddadl Fer ar gyfer gweddill y tymor.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i restru’r eitem o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2011

 

o   Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012/13 (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y gwelliannau a gyflwynwyd i Fil Senedd y DU ynghylch Addysg. Oherwydd amseriad cyflwyno’r Bil yn San Steffan, cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n cael ei gyfeirio i bwyllgor i’w ystyried ac y byddai felly’n cael ei gyflwyno i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2011.

 

Pwysleisiodd y Llywydd bod disgwyl i ddigon o rybudd gael ei roi i’r Cynulliad, unwaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol newydd Llywodaeth y DU yn hysbys, fel nad yw’r broses graffu’n cael ei osgoi yn y modd hwn. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ystyried sut y gall y Cynulliad gael mwy o rybudd am Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

5.

Pwyllgorau

5(i)

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Cais i gynnal cyfarfod yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin i gynnal cyfarfod ffurfiol ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Llun 28 Tachwedd 2011. Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod costau darlledu’r sesiynau hyn a pha mor hygyrch fyddai cyfarfodydd pwyllgor allanol i’r cyhoedd.

Unrhyw Fusnes Arall

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod yn gyhoeddus am 08.45 ddydd Mawrth 1 Tachwedd (Ystafell Bwyllgora 4) i drafod y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog sy’n weddill, yn sgil y Refferendwm (Gorchmynion adran 109).