Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerc)
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cyhoeddodd Arweinydd y Tŷ
y bydd y Prif Weinidog yn gwneud
datganiad ynghylch Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi ddydd Mercher. Ddydd Mawrth, bydd y cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trefnodd y Pwyllgor Busnes amser ar gyfer yr eitem a ganlyn: Dydd Mawrth 18 Hydref 2011 · Dadl fer a ohiriwyd ers 5 Hydref 2011 – Dafydd Elis-Thomas: Diwygio Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat (30 munud) Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
|
Dadleuon gan Aelodau unigol Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y cynigion heb ddyddiad trafod a gyflwynwyd gan Aelodau unigol
gan ddewis y cynnig a ganlyn i’w drafod ddydd Mercher 19 Hydref 2011: NNDM4825 Christine Chapman (Cwm
Cynon), Julie Morgan (Gogledd Caerdydd), Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru),
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn annog Llywodraeth Cymru i
gyflwyno deddfwriaeth i’r Cynulliad ei hystyried a fyddai’n cael gwared ar y
gallu i ddefnyddio ‘cosb gyfreithlon’ fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o
ymosod ar blentyn. Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y broses o ddewis a blaenoriaethu cynigion yn y dyfodol, o
ystyried faint o ddiddordeb a oedd gan Aelodau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i
ymgynghori â’u grwpiau ac i drafod y mater eto ar ôl hanner tymor. |
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Gofynnodd Peter
Black am ganllawiau i sut mae’r Llywydd yn penderfynu a ddylid derbyn cwestiwn
brys ai peidio. Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes nad oedd gofyn iddi roi
rheswm dros ei phenderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cwestiwn brys ond nododd
fod angen i gwestiynau fod yn rhai brys ac o bwys i’r cyhoedd. |
PDF 61 KB