Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Ystafell Gynhadledd 4B - Ty Hywel
Cyswllt: Anna Daniel (Clerc)
| Rhif | Eitem | ||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|||||||||||||
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi. |
|||||||||||||
|
Trefn Busnes |
|||||||||||||
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes ei fod yn bosibl y bydd Dirprwy Lywydd dros dro yn cael ei
ethol ar ddechrau’r cyfarfod yn absenoldeb y Dirprwy Lywydd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn yr amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i’r
Comisiwn o 15 munud i 30 munud. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd pleidleisio ar y cynigion a ganlyn yn digwydd ar ddiwedd
yr eitem berthnasol: o
Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
mewn perthynas ag anghymhwyso Aled Roberts (15 munud) o
Cynnig o dan adran 17(30) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
mewn perthynas ag anghymhwyso John Dixon (15 munud) Ddydd Mawrth, bydd pleidleisio ar yr holl
eitemau eraill yn cael ei ohirio tan y Cyfnod Pleidleisio, a fydd yn digwydd ar
ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y
Cyfnod Pleidleisio yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Nododd y Pwyllgor Busnes drefn busnes ar
gyfer 5 a 6 Gorffennaf. |
|||||||||||||
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: O ystyried bod y
Llywodraeth wedi trefnu dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil
Lleoliaeth ar 12 Gorffennaf, cytunodd y Rheolwyr Busnes i wahodd y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i adrodd ar y cynnig cydsyniad
deddfwriaethol cyn iddo gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf. Nododd y Pwyllgor
amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||||
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
ar drefn busnes y Cynulliad, yn amodol ar y penderfyniadau a wnaed o dan
eitemau 3(iv) a 3(v). |
|||||||||||||
|
Dadleuon ar gynigion a gynigir gan Aelodau unigol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar y meini prawf ar
gyfer dethol cynigion ar gyfer dadleuon a gyflwynir gan Aelodau unigol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai dadleuon Aelodau unigol fynd rhagddynt ar
gynnig terfynol y gellir ei ddiwygio, gyda chefnogaeth Aelodau o leiaf tair
plaid. Cytunwyd y dylid eu gwaredu drwy bleidlais. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu
dadl awr o hyd yn hanner cyntaf tymor yr hydref i ddechrau, ac i adolygu’r meini
prawf os oes angen, yn sgîl y galw am slotiau.
|
|||||||||||||
|
Amserlen y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen newydd ar gyfer y Cynulliad o fis
Medi 2011 ymlaen, sy’n cynnwys: o
yr amser sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid; o
y dyddiadau a’r amserlen ar gyfer cwestiynau llafar; o
y
modd y caiff amser ei rannu rhwng busnes y Llywodraeth a busnes y Cynulliad:
o
dyddiadau
arfaethedig ar gyfer y toriadau,
sef:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amser a gaiff ei neilltuo gan y Cynulliad ar gyfer y
mathau o ddadleuon a ganlyn: o dadleuon y gwrthbleidiau – neilltuo’r
hyn sy’n weddill o amser y Cynulliad ar gyfer dadleuon y gwrthbleidiau, gan
gylchdroi rhwng grwpiau (fel y cytunwyd ar 8 Mehefin 2011). o dadleuon Aelodau unigol – fel y cytunwyd
o dan eitem 3(iv) uchod. |
|||||||||||||
|
Pwyllgorau |
|||||||||||||
|
Amserlen y Pwyllgor Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar ddull o amserlennu pwyllgorau, ond cytunodd i geisio barn y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr amser a fyddai’n
well ganddo, sef naill ai prynhawn Mawrth neu brynhawn Iau. |
|||||||||||||
|
Amserlen y gyllideb Cofnodion: |
|||||||||||||
|
Rheolau Sefydlog |
|||||||||||||
|
Newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad - adroddiad drafft Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar y newidiadau i’r Rheolau
Sefydlog yn sgîl y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad
ym mis Mawrth, a chymeradwywyd yr adroddiad.
arno. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio’r Rheolau
Sefydlog ar gyfer trafodaeth y Cynulliad ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2011. |
|||||||||||||
|
Busnes arall |
PDF 66 KB