Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: |
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: |
|
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitemau o fusnes a ganlyn: Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012-
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael
eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt
yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn
cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig: Cynnig Cyfnod 4 i
gymeradwyo Bil Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (ieithoedd Swyddogol) o dan reol Sefydlog 26.47.
Penderfynodd y
Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
|
Dadleuon Aelodau Unigol: Dethol Cynnig i'w Drafod Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion heb ddyddiad
trafod a gyflwynwyd gan Aelodau unigol, a detholwyd y cynnig a ganlyn i’w
drafod ddydd Mercher 4 Gorffennaf: NNDM5023 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a
gynhelir yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Keith Davies
(Llanelli) Christine Chapman
(Cwm Cynon) Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Vaughan Gething
(De Caerdydd a Phenarth) Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd) Julie James
(Gorllewin Abertawe) Peter Black
(Gorllewin De Cymru) Mick Antoniw (Pontypridd) Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnal y Ddadl gan Aelod Unigol nesaf ddydd Mercher 17 Hydref
2012. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Adolygu Strwythur y Pwyllgorau Cofnodion: Bu’r Pwyllgor
Busnes yn trafod papur a oedd yn amlinellu’r profiadau a gafwyd o ran strwythur
y pwyllgorau yn ystod blwyddyn gyntaf y pedwerydd Cynulliad. Strwythur y
Pwyllgorau Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad yw rôl ddeuol y
pwyllgorau, sef deddfu a chraffu ar bolisïau, wedi’i phrofi’n iawn eto, a
daethpwyd i’r casgliad nad oes angen newid y strwythur ar hyn o bryd. Cytunodd
yr Aelodau i barhau i adolygu’r system wrth i swmp y ddeddfwriaeth gynyddu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid
parhau i brif-ffrydio materion Ewropeaidd ar draws y pwyllgorau. Nodwyd bod y
dull hwn o weithredu wedi gweithio’n dda, gan arwain at waith craffu mwy
trylwyr ar faterion Ewropeaidd. Nododd y Rheolwyr
Busnes y rôl a chwaraeir gan gadeiryddion y pwyllgorau, a chytunwyd y dylid
gwahodd y cadeiryddion i roi adborth am y rôl-ddisgrifiad presennol (sef y
rôl-ddisgrifiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes ym mis Mehefin 2011). Amserlen y Pwyllgorau Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod newidiadau posibl i
amserlen y pwyllgorau er mwyn hwyluso cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus am slotiau hirach a mwy cyson ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor. Nododd
y Pwyllgor Busnes yr anawsterau a geir wrth geisio amserlennu cyfarfodydd.
Cytunodd yr Aelodau y byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn parhau i gynnal
cyfarfodydd ar fore dydd Mawrth, a bod hawl gan y Pwyllgor hefyd i gynnal
cyfarfodydd ar brynhawn dydd Llun os oes angen gwneud hynny er mwyn bodloni
gofynion ei lwyth gwaith, gan y byddai cynnal cyfarfodydd mewn slotiau eraill
yn arwain at wrthdaro sylweddol â chyfrifoldebau eraill yr Aelodau. Yn ogystal,
nododd y Pwyllgor Busnes fod angen elfen o hyblygrwydd, o bosibl, mewn
perthynas â chynnal cyfarfodydd y grwpiau pleidiol ar fore dydd Mawrth, er mwyn
galluogi’r pwyllgorau i gynnal cyfarfodydd hirach lle bo angen. Nododd y Rheolwyr
Busnes fod aelodaeth Aelodau Plaid Cymru o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn
cael ei herio’n aml, gan fod nifer o Aelodau’r blaid wedi bod yn Weinidogion. O
dan Reol Sefydlog 18.8, nid oes gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
yr hawl i gymryd rhan mewn trafodaeth ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfnod
pan roedd yr Aelod hwnnw’n rhan o’r Llywodraeth. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd i amserlennu slot ar gyfer cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu ar
Waith y Prif Weinidog unwaith bob tymor ar ddydd Iau (ochr yn ochr â
chyfarfodydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc/y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol/a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd). Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadw’r slot ar gyfer
cyfarfodydd o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar brynhawn dydd
Llun, gan nodi bod cynnal cyfarfodydd ar brynhawn dydd Llun yn cyfyngu ar
aelodaeth y Pwyllgor ac yn arwain at ddirprwyo rheolaidd. |
|
|
Busnes Arall |
PDF 774 KB