Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anna Daniel (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Ddydd Mawrth, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai angen ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro ar gyfer Cyfarfod Llawn dydd Mercher yn absenoldeb y Dirprwy Llywydd.

 

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ddarparu rhagor o wybodaeth am Reoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012. Cynhelir dadl ar y rheoliadau hyn ar 10 Gorffennaf.

 

Nododd y Pwyllgor amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau a ganlyn o fusnes:

 

 

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2012 -

 

·         Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru (45 munud)

 

·         Dadl ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru (45 munud)

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Sŵn Tyrbinau Gwynt (45 munud)

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.

 

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 23 Tachwedd 2012. Yn amodol ar sicrhau cytundeb y Cynulliad ar y Bil yng Nghyfnod 1, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Pwyllgor Cyfnod 2 erbyn 1 Tachwedd 2013.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd yn mynegi pryder ynghylch y dyddiad cau arfaethedig ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 ar y Bil, o gofio’r anawsterau y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi’u dioddef mewn perthynas â’i gyfarfodydd ar fore dydd Mawrth, a’r galwadau parhaus ar y Pwyllgor i wneud gwaith cyffredinol ar ymchwiliadau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried y slotiau hynny ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fel rhan o’r adolygiad o strwythur y pwyllgorau.

4(ii)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cymhwysedd Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012, fel y gellir cynnal dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Medi 2012.

 

4(iii)

Ymateb y Pwyllgor Busnes i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ei ymateb drafft i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU, a chytunodd y Pwyllgor arno. Caiff yr ymateb hwn ei osod gerbron y Cynulliad a’i anfon at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn y cynhelir dadl ar y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Mehefin.

5.

Pwyllgorau

5(i)

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Phrifysgol Glyndŵr ac Airbus ar 28 Mehefin 2012

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gymeradwyo cais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i gynnal cyfarfodydd anffurfiol ym Mhrifysgol Glyndŵr a’r cyffiniau ddydd Iau 28 Mehefin 2012.

6.

Cyfarfod Llawn

6(i)

Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwyr Busnes ystyriaeth bellach i gynigion ar gyfer ailwampio busnes y Cynulliad ar brynhawniau Mercher, a chytunodd y rheolwyr i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cwestiynau ar faterion amserol.