Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei ymddiheuriadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Hysbysodd Arweinydd y Tŷ y Pwyllgor y bydd y datganiad a ganlyn yn cael ei wneud ddydd Mawrth: · Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Yr ymateb brys i’r llifogydd mawr yng nghanolbarth a gogledd Cymru (30 munud) Bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud cynigion i newid aelodaeth Llafur ar bwyllgorau ddydd Mercher. Ddydd Mawrth, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. Yn absenoldeb y Dirprwy Lywydd, nododd y Pwyllgor Busnes y bydd angen ethol Dirprwy Lywydd neu Gadeirydd dros dro ar gyfer dydd Mawrth a dydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn: Dydd Mercher 20 Mehefin 2012 · Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol (5 munud) Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chyfreithiau'r DU sy'n effeithio ar bwerau'r Cynulliad neu ar Weinidogion Cymru Cofnodion: Bu’r Pwyllor Busnes yn ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad ar ei ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i’r argymhellion ynghylch gweithdrefnau’r Cynulliad. Ynglŷn ag Argymhelliad 11, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i edrych ar sut y gellid ymestyn y weithdrefn dros dro a gytunwyd arni ar gyfer ystyried Gorchmynion y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus i gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion y DU sydd yn dod o fewn cymhwysesdd y Cynulliad neu y gallai effeithio ar gymhwysedd y Cynulliad, yn amodol ar gynnal adolygiad o’r weithdrefn dros dro. |
|
Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol: Adroddiad drafft Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried adroddiad drafft ar newidiadau i’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol, a chymeradwyodd yr adroddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i’r Cynulliad ei ystyried ddydd Mercher 20 Mehefin 2012. |
|
Busnes Arall Ceisiadau
am Amser y Cynulliad Er mwyn sicrhau amser ar
gyfer holl ddadleuon ar adroddiadau
pwyllgorau tuag at ddiwedd y tymor, cytunodd y Rheolwyr Busnes, dros dro,
i leihau’r amser ar gyfer holl
ddadleuon ar adroddiadau pwyllgorau a dadleuon y gwrthbleidiau ddydd Mercher 11 Gorffennaf o 60 munud i 45 munud. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Menter a Diwygio
Rheoleiddio Hysbysodd Arweinydd y Tŷ
y Rheolwyr Busnes y bydd papur ar
y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter
a Diwygio Rheoleiddio yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried,
yn amodol ar gliriad gan
y Gweinidog, ddydd Mawrth 19 Mehefin. Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes o’i bwriad i ddychwelyd at y cynnig i ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher yr wythnos nesaf. |