Eitemau
| Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cofnodion:
Croesawodd y Llywydd Aled Roberts i’r
cyfarfod fel Rheolwr Busnes newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a diolchodd i
Peter Black am ei gyfraniad gwerthfawr i’r Pwyllgor Busnes yn ystod ei gyfnod
fel Rheolwr Busnes y blaid honno.
|
2. |
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cofnodion:
Nodwyd y
cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.
|
3. |
Trefn Busnes
|
3(i) |
Busnes yr wythnos hon
Cofnodion:
Ddydd Mawrth,
cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher.
|
3(ii) |
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
|
3(iii) |
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnal yr eitem a ganlyn ar 13 Mehefin 2012 yn lle 20 Mehefin
2012:
·
Dadl
ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Un Corff Amgylcheddol (60
munud)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnal yr eitem a ganlyn ar 20 Mehefin 2012 yn lle 13 Mehefin
2012:
·
Dadl
ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i
Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru (60 munud)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau o fusnes a ganlyn:
Dydd Mercher 27 Mehefin 2012
·
Dadl
ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Roi Pwerau
i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU (60 munud)
·
Dadl
ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau
(Cymru) 2009 (60 munud)
Penderfynodd y
Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.
|
4. |
Deddfwriaeth
|
4(i) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor
Busnes yn trafod papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
erbyn dydd Llun 25 Mehefin 2012, fel y gellir cynnal dadl ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mehefin 2012.
Cytunodd Arweinydd y Tŷ i roi
rhagor o wybodaeth i’r Rheolwyr Busnes am sut y byddai pwerau i sefydlu cynlluniau
ar gyfer lleihau’r dreth gyngor a materion eraill yn cael eu defnyddio, ac am y
cyfleoedd ar gyfer craffu pellach gan y Cynulliad.
|
4(ii) |
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Biliau Cydgrynhoi - Papur i'w nodi
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr a anfonwyd gan y Cwnsler
Cyffredinol mewn ymateb i gynigion drafft a gyflwynwyd ar gyfer Rheolau
Sefydlog ar Filiau Cydgrynhoi. Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn y byddai’n
briodol i bennu Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, gan ei fod yn bwriadu ystyried
y broses gyfan yn fanwl er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno rhaglen o Filiau
Cydgrynhoi. Croesawodd y Rheolwyr Busnes y cyfle i weld swyddogion y Cynulliad
yn cydweithio’n agos â Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol wrth ddatblygu’r cynigion
hyn.
|
5. |
Pwyllgorau
|
5(i) |
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i gynnal cyfarfod ffurfiol ychwanegol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gymeradwyo cais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i
gynnal cyfarfod ffurfiol ychwanegol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Cynhelir y
cyfarfod hwn ddydd Mercher 25 Gorffennaf 2012.
|
6. |
Rheolau Sefydlog
|
6(i) |
Diwygiadau Amrywiol i'r Rheolau Sefydlog
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar newidiadau i Reolau
Sefydlog 11.10, 17.3, 17.41 a 25.22 er mwyn cywiro anghysonderau neu sicrhau
eglurder. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn paratoi adroddiad drafft i’r Cynulliad
i’w ystyried ochr yn ochr â’r Rheolau Sefydlog drafft ar gyfer Biliau Preifat.
|
7. |
Cyfarfod Llawn
|
7(i) |
Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher
Cofnodion:
Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod cynigion ar gyfer
ailwampio ac amrywio busnes y Cynulliad ar brynhawn dydd Mercher. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ailystyried y mater unwaith eto yn dilyn ymgynghori pellach
â’u grwpiau.
|
8. |
Busnes Arall
|
8(i) |
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad hanner tymor mis Mehefin
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Deddfwriaeth
a Gwasanaeth y Siambr yn ystod toriad y Sulgwyn.
|