Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anna Daniel (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

2(i)

Cofnodion cyhoeddus drafft

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

2(ii)

Cofnodion preifat drafft

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu amser ddydd Mercher ar gyfer cynnig i ethol aelod o’r Pwyllgor Busnes.

 

Byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn digwydd cyn y Ddadl Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher.

3(ii)

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 20 Mehefin 2012

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr Un Corff Amgylcheddol (60 munud)

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.

4.

Deddfwriaeth

4(i)

Memoranda Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Femorandwm Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a therfynau amser y Pwyllgor ar gyfer ystyried y Memorandwm. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Rheolwyr Busnes am y Gorchymyn. 

Busnes Arall

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod unwaith eto broses y balot ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad, a gwnaethant gytuno i fonitro sut yr oedd yn gweithio.

 

Nododd y Pwyllgor mai hwn oedd y tro olaf y byddai Peter Black yn Rheolwr Busnes i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y Pwyllgor, a bod Aled Roberts wedi’i enwebu i gymryd ei le. Diolchodd y Llywydd i Peter Black am ei gyfraniad i’r Pwyllgor Busnes yn ystod ei amser yn Rheolwr Busnes.