Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ystyried drafft diwygiedig o’r Rheolau Sefydlog mewn cyfarfod o’r
Pwyllgor Busnes yn y dyfodol, ac ar ôl hynny byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn
paratoi adroddiad i’w osod gerbron y Cynulliad. |
|
Cyflwyno Biliau Preifat (RhS 26A.1 - 26A.14) Cofnodion: Ystyriodd y
Rheolwyr Busnes y dulliau gwahanol ar gyfer Rheol Sefydlog 26A.6 arfaethedig a
amlinellwyd gan swyddogion. Nododd y Rheolwyr
Busnes y byddai penderfynu ar ffioedd yn fater i Gomisiwn y Cynulliad. Nododd y Rheolwyr
Busnes hefyd sut y mae Rheol Sefydlog 26A.13 arfaethedig yn nodi gofynion eang
o ran cyhoeddi a rhoi cyhoeddusrwydd i’r hysbysiad. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.1- 26A.14 arfaethedig. |
|
Cyfnod Gwrthwynebu (RhS 26A.15 - 26A.24) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.15 – 26A.24 arfaethedig. |
|
Pwyllgorau Biliau Preifat (RhS 26A.25 - 26A.36) Cofnodion: Nododd y Rheolwyr
Busnes fod Rheol Sefydlog 26.31 yn gosod gofyniad y bydd aelodau o’r Pwyllgor
Bil Preifat yn dilyn hyfforddiant. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog 26A.25 – 26A.36 arfaethedig. |
|
Ystyriaeth Gychwynnol (RhS 26A.37 - 26A.44) Cofnodion: Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes am gadarnhad am sut y byddai’r materion a ystyrir yn ystod
Ystyriaeth Gychwynnol yn wahanol i’r rhai y byddai’r Llywydd yn eu hystyried
wrth roi caniatáu i’r Bil gael ei osod. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau Sefydlog
26A.37 - 26A.44 arfaethedig. |
|
Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor (RhS 26A.45 - 26A.70) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.45 - 26A.70 arfaethedig. |
|
Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad (RhS 26A.71 - 26A.83) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.45 - 26A.70 arfaethedig. |
|
Y Cyfnod Terfynol ac Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd (RhS 26A.84 - 26A.94) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.84 - 26A.94 arfaethedig. |
|
Gwelliannau i Filiau Preifat (RhS 26A.95 - 26A.104) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.95 - 26A.104 arfaethedig. |
|
Newid Hyrwyddwr a Chydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw (RhS 26A.105 - 26A.112) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.105 - 26A.112 arfaethedig. |
|
Penderfyniadau Ariannol (RhS 26A.113 - 26A.119) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.113 - 26A.119 arfaethedig. |
|
Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Preifat y Cynulliad a Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl (RhS 26A.120 - 26A.123) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar Reolau
Sefydlog 26A.113 - 26A.119 arfaethedig. |
|
Newidiadau Canlyniadol i Reolau Sefydlog (RhS 15.1) Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar newidiadau
canlyniadol i Reol Sefydlog 15.1. |