Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Gorchmynion a wnaed o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/05/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Gorchmynion a wnaed o dan Fil Cyrff Cyhoeddus 2011


Cyfarfod: 08/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012

NDM4932 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 (Saesneg yn unig)

Dogfen Esboniadol i Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Cydsyniad - Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

 

NDM4932 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

NDM4928 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad - Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012
Dogfen EsboniadolAr gael yn Saesneg

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Orchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM4928 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2012

NDM4901 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau etc) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.

Gosodwyd y Memorandwm Esboniadol a memorandwm cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012.

Dogfennau Ategol
The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions, Etc.) Order 2012
Memorandwm Esboniadol
Memorandwm Cydsyniad
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar "The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of Functions, Etc.) Order 2012" ar dydd Mawrth, 24 Ionawr 2012

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.