Cyfarfodydd
Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a gwaith y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Roedd y Comisiwn wedi cytuno, mewn egwyddor, yn gynharach yn y flwyddyn i
gais gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol am ddeialog strwythuredig i sefydlu
dealltwriaeth ar y cyd o sut y caiff anghenion Aelodau eu cefnogi yn y dyfodol
drwy wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd, gan edrych i'r Seithfed
Senedd a thu hwnt.
Bu’r Comisiynwyr yn ystyried eu camau nesaf i fwrw ymlaen â’r ddeialog hon
a galluogi ystyriaethau strategol o ran sut y byddai Aelodau’n cael eu cefnogi
yn y Seithfed Senedd.
Trafododd y Comisiynwyr gyd-ddibyniaeth gymhleth penderfyniadau a wneir gan
y Bwrdd taliadau Annibynnol a'r Comisiwn a dymuniad yr Aelodau am eglurder
ynghylch y darpariaethau a wneir ar eu cyfer ac am ddealltwriaeth o'r rhesymau
dros benderfyniadau. Roeddent o’r farn y
gallai fod cyfleoedd i wneud newidiadau a fyddai’n ei gwneud yn gliriach lle
mae’r cyfrifoldebau wedi’u lleoli cyn y Seithfed Senedd ac er mwyn paratoi ar
ei chyfer. Fodd bynnag, nododd y Comisiynwyr fod gwerth am arian ac annibyniaeth
penderfyniadau yn hanfodol, yn ogystal â chael prosesau adolygu a arweinir gan
Aelodau, er na fyddai'n ddymunol dychwelyd at system o Aelodau yn penderfynu ar
eu cyflog eu hunain.
Trafododd y Comisiynwyr y byddai rhai agweddau ar Ddiwygio’r Senedd a newid
a yrrir gan anghenion yn y dyfodol yn cael eu harwain gan rannau eraill o’r
Senedd, e.e. y Pwyllgor Busnes, a bod y cynigion a oedd yn cael eu hystyried yn
ddechrau sgwrs a fyddai’n cael ei llywio drwy ymgysylltu â’r Aelodau.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar y dull a amlinellwyd: y prif feysydd trafod - cydbwysedd adnoddau a'r
cysylltiad rhwng gwasanaethau'r Comisiwn ac adnoddau'r Penderfyniad; symleiddio
mynediad Aelodau at adnoddau’r Penderfyniad; a chyfleoedd i wella Llywodraethu
a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Comisiwn. Gwnaethant gytuno
i gynnal trafodaethau pellach yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, o bosibl hefyd i
ystyried rhai o’r materion yn llai ffurfiol, ac i drafodaethau paratoadol gael
eu cynnal gyda phob Comisiynydd yn y tymor byr.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr Adroddiad y Pwyllgor Taliadau, a oedd yn amlinellu rôl
y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a'i gasgliadau o'r gwaith yr oedd wedi'i wneud yn
ystod y flwyddyn, a chytunwyd ar yr addasiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl,
sef y gellid gofyn i aelodau'r pwyllgor:
- gyfrannu at faterion penodol o ran y
gweithlu, lle mae eu harbenigedd yn gwneud hyn yn briodol; a
rhoi adborth i'r
Pwyllgor ar faterion perthnasol o ran gweithlu’r Comisiwn lle maent wedi bod yn
rhan o’r mater.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cynghorwyr Annibynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Bu'r Comisiynwyr yn ystyried
nifer o faterion yn ymwneud â'u Cynghorwyr Annibynnol. Fe wnaethon nhw gytuno
i'r cylch gorchwyl diwygiedig i newid o Bwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) i Bwyllgor Taliadau.
Cytunodd y Comisiynwyr
i gael argymhellion mewn perthynas â phenodi Cynghorwyr Annibynnol – gan
gynnwys ar gyfer Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor
Taliadau – y tu allan i’r cyfarfod, ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben yn
fuan. At hynny, fe wnaethant gytuno i ymestyn penodiad presennol Bob Evans fel
Cynghorydd Annibynnol am ddwy flynedd ychwanegol, gan ddisgwyl y byddai'n
parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adolygiad interim o Gyflogau 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am yr Adolygiad Interim o Gyflogau –
a gynhaliwyd fel y cynlluniwyd ym mis Mai a mis Mehefin eleni fel rhan o’r
cytundeb presennol sydd ar waith hyd at 2025 – a chawsant eu hysbysu am
Bleidlais ar Streic Genedlaethol ynghylch Cyflogau a oedd wedi agor, ac a
fyddai'n cau ar 6 Tachwedd. Trafododd y Comisiynwyr yr
amgylchedd presennol o ran cyflogau a chostau byw a gofyn am gael eu cadw i’r
funud.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cyflwynodd Sarah
Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiadau, ar swyddogaeth
y Pwyllgor Taliadau ac ar y rôl sicrwydd a chynghori ehangach, gan
ganolbwyntio’n benodol ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ac
economaidd-gymdeithasol fel mater o ddiddordeb arbennig. Mae’r Pwyllgor wedi
cymryd diddordeb allweddol ym metrigau blynyddol y Comisiwn ac yn falch o nodi
canlyniadau cadarnhaol yn yr adroddiadau amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig
dangosyddion cynnar o gynnydd o ran denu gwell amrywiaeth o ymgeiswyr a
datblygu Cynllun Interniaeth Lleiafrifoedd Ethnig newydd.
Croesawodd y
Comisiynwyr y sicrwydd a ddarparwyd gan y Cynghorwyr Annibynnol, yn unigol a
thrwy'r Pwyllgorau, a nodwyd adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a'r Gweithlu.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cynghorwyr Annibynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y diweddaraf am recriwtio lefel uwch
Cofnodion:
Yn unol â gofynion y Ddirprwyaeth ar gyfer ymgynghori, hysbyswyd y Comisiwn
am y cynnydd a wnaed tuag at y cynigion y cytunwyd arnynt yn flaenorol i wneud
newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwr fel rhan o’r gwaith o addasu'r uwch
strwythur.
Cawsant y wybodaeth ddiweddaraf am werthusiadau a oedd wedi digwydd ac
ymarferion recriwtio ar y gweill. Roedd y rhain yn ymwneud â swyddi'r Prif
Gynghorydd Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Adnoddau a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd.
Gwnaeth aelodau Bwrdd
Gweithredol y Comisiwn, ac eithrio’r Clerc, eu hunain yn absennol ar gyfer yr
eitem hon.
Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Cyflwynodd Sarah
Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiynwyr. Roedd y Pwyllgor wedi
cymryd diddordeb arbennig mewn cyfleoedd i ysgogi cynrychiolaeth
gymdeithasol-economaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well o fewn y Comisiwn, ac
wedi rhoi ffocws i ymatebion i Covid mewn perthynas â gweithlu'r Comisiwn ac
ymgysylltu â'r cyhoedd.
Gwnaeth holl
swyddogion y Comisiwn, ac eithrio'r Clerc, eu hunain yn absennol o'r drafodaeth
ar ailstrwythuro uwch swyddi. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynigion i wneud
newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwyr a nodwyd trefniadau ar gyfer uwch staff
sy'n rhan o'r Bwrdd Gweithredol.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu (REWAC)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu
a Gweithlu, adroddiad y Pwyllgor i'r Comisiwn am y tro cyntaf ers cytuno ar y
cylch gwaith sydd wedi’i ehangu. Trafododd Sarah rai themâu tebyg i'r rhai a
godwyd gan Bob Evans, gan adlewyrchu gyda'r Comisiwn ar safon y sefydliad a'i
staff, a phwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â phobl Cymru.
Nododd y Comisiynwyr
adroddiad blynyddol REWAC.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Nododd y Comisiwn
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Cynulliad ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) - Cylch Gorchwyl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Darparwyd i'r Aelodau ddiweddariad o gylch gorchwyl y
Pwyllgor Taliadau, gan ehangu ei ffocws o'r hyn yr oedd yn canolbwyntio arno'n
flaenorol. Nodwyd hyn. Roedd hyn yn adlewyrchu awydd i wneud defnydd da o'r
ystod arbenigedd a ddaw gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Nodwyd penodiad
Cadeiryddion REWAC ac ACARAC:
·
Cadeirydd ACARAC - Bob
Evans
·
Cadeirydd REWAC - Sarah
Pinch
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau.
Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a
ffafrir gan y Panel Dethol.
Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Disgrifiodd Helena Feltham, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Taliadau, waith y
Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf. Eglurodd, er mai rôl gynghori sydd gan y
Pwyllgor, mae'n gadarn yn ei waith, ac felly mae'n adnodd effeithiol o safbwynt
llywodraethu.
Diolchodd y Llywydd i Helena a'r Pwyllgor am eu gwaith.
Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 2013-14
papur 5
Cofnodion:
Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yw helpu’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod
gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac
atebolrwydd wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor yn cynghori’r
Comisiwn a’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, ar eu cyfrifoldebau o ran
polisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol, a’u cymeradwyo. Bydd y Pwyllgor yn
ystyried argymhellion a wneir gan y Llywydd ynghylch perfformiad y Prif
Weithredwr, a chan y Prif Weithredwr ynghylch Cyfarwyddwyr.
Nid oes ganddo bwerau gweithredol, ac mae’n ofynnol iddo
wneud adroddiad blynyddol ffurfiol i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.
Helena Feltham yw Cadeirydd y Pwyllgor erbyn hyn, ac mae
Eric Gregory a Keith Baldwin yn aelodau ohono, ac mae pob un ohonynt yn
Gynghorwyr Annibynnol i’r Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor, yn
benodol:
-
Roedd y Cyfarwyddwyr wedi perfformio i safon dderbyniol,
sy’n caniatáu i hawliau cytundebol i godiadau cynyddrannol (sy’n gysylltiedig â
pherfformiad boddhaol) gael eu gweithredu, lle nad yw’r unigolyn eisoes wedi
cyrraedd y radd darged ar gyfer y band cyflog.
-
Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y Strategaeth ar Gyflogau
ar gyfer staff y Comisiwn, a lywiodd y setliad y cytunwyd arno gydag Undebau Llafur
y Cynulliad ym mis Mawrth 2014. Byddai’r setliad newydd yn para o 1 Hydref 2013
tan 30 Medi 2016. Byddai’r Pwyllgor yn cynorthwyo i ddatblygu opsiynau ar gyfer
strategaethau talu yn y dyfodol, yn barod ar gyfer eu hystyried yn 2016.
Nodwyd adroddiad y Pwyllgor yn ffurfiol. Roedd y Comisiynwyr am gofnodi eu
diolch i Tony Morgan am gadeirio’r Pwyllgor blaenorol.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
papur 3
Cofnodion:
Rôl
Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r
Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu
darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian
cyhoeddus. Ar gais, mae’r Pwyllgor yn
cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu ar eu
cyfrifoldebau i gymeradwyo a pholisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol. Mae’n gweithredu mewn capasiti cynghorol, ac
nid oes ganddo bwerau gweithredol. Yn
unol â’i gylch gorchwyl, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad blynyddol
ffurfiol ar ei waith i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.
Cyfarfu’r
Pwyllgor unwaith yn ystod 2012-13 ar 19 Ebrill 2012 ac roedd yr eitemau ar yr
agenda yn cynnwys:
·
y
Strategaeth Wobrwyo Ddrafft ar gyfer Staff y Cynulliad;
·
adolygiad o
gyflog a pherfformiad y Tîm Gweithredol.
Yn
ogystal â’r rhain, ystyriodd y Pwyllgor bolisi cyflog y sector cyhoeddus yn fwy
eang i sicrhau bod ei gyngor yn cael ei roi o fewn y cyd-destun ehangach hwn.
Cytunodd y Pwyllgor
i’r strategaeth gyffredinol gael ei defnyddio i ddatblygu trefniadau gwobrwyo
mewn cysylltiad â’r cytundeb cyflog 18 mis sy’n dod i ben ym mis Medi 2013, a
oedd yn cyd-fynd â’r cyd-destun economaidd ehangach yng Nghymru a gweddill y
DU.
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad.
Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y Pwyllgor Taliadau
Papur 8 i’w nodi
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chylch gorchwyl diwygiedig Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Cynulliad.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
7 Cofnodion y Pwyllgor Taliadau
Dogfennau ategol:
- RC2011(1) Minutes of meeting - 13 April 2011
Cofnodion:
Nodwyd y cofnodion.