Cyfarfodydd

Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a gwaith y Bwrdd Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Roedd y Comisiwn wedi cytuno, mewn egwyddor, yn gynharach yn y flwyddyn i gais gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol am ddeialog strwythuredig i sefydlu dealltwriaeth ar y cyd o sut y caiff anghenion Aelodau eu cefnogi yn y dyfodol drwy wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd, gan edrych i'r Seithfed Senedd a thu hwnt. 

Bu’r Comisiynwyr yn ystyried eu camau nesaf i fwrw ymlaen â’r ddeialog hon a galluogi ystyriaethau strategol o ran sut y byddai Aelodau’n cael eu cefnogi yn y Seithfed Senedd.

Trafododd y Comisiynwyr gyd-ddibyniaeth gymhleth penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd taliadau Annibynnol a'r Comisiwn a dymuniad yr Aelodau am eglurder ynghylch y darpariaethau a wneir ar eu cyfer ac am ddealltwriaeth o'r rhesymau dros benderfyniadau. Roeddent o’r farn y gallai fod cyfleoedd i wneud newidiadau a fyddai’n ei gwneud yn gliriach lle mae’r cyfrifoldebau wedi’u lleoli cyn y Seithfed Senedd ac er mwyn paratoi ar ei chyfer. Fodd bynnag, nododd y Comisiynwyr fod gwerth am arian ac annibyniaeth penderfyniadau yn hanfodol, yn ogystal â chael prosesau adolygu a arweinir gan Aelodau, er na fyddai'n ddymunol dychwelyd at system o Aelodau yn penderfynu ar eu cyflog eu hunain.

Trafododd y Comisiynwyr y byddai rhai agweddau ar Ddiwygio’r Senedd a newid a yrrir gan anghenion yn y dyfodol yn cael eu harwain gan rannau eraill o’r Senedd, e.e. y Pwyllgor Busnes, a bod y cynigion a oedd yn cael eu hystyried yn ddechrau sgwrs a fyddai’n cael ei llywio drwy ymgysylltu â’r Aelodau.

Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull a amlinellwyd: y prif feysydd trafod - cydbwysedd adnoddau a'r cysylltiad rhwng gwasanaethau'r Comisiwn ac adnoddau'r Penderfyniad; symleiddio mynediad Aelodau at adnoddau’r Penderfyniad; a chyfleoedd i wella Llywodraethu a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Comisiwn. Gwnaethant gytuno i gynnal trafodaethau pellach yn eu cyfarfod ym mis Ionawr, o bosibl hefyd i ystyried rhai o’r materion yn llai ffurfiol, ac i drafodaethau paratoadol gael eu cynnal gyda phob Comisiynydd yn y tymor byr.


Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr Adroddiad y Pwyllgor Taliadau, a oedd yn amlinellu rôl y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a'i gasgliadau o'r gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn, a chytunwyd ar yr addasiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl, sef y gellid gofyn i aelodau'r pwyllgor:

  • gyfrannu at faterion penodol o ran y gweithlu, lle mae eu harbenigedd yn gwneud hyn yn briodol; a

rhoi adborth i'r Pwyllgor ar faterion perthnasol o ran gweithlu’r Comisiwn lle maent wedi bod yn rhan o’r mater.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cynghorwyr Annibynnol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Bu'r Comisiynwyr yn ystyried nifer o faterion yn ymwneud â'u Cynghorwyr Annibynnol. Fe wnaethon nhw gytuno i'r cylch gorchwyl diwygiedig i newid o Bwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) i Bwyllgor Taliadau.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i gael argymhellion mewn perthynas â phenodi Cynghorwyr Annibynnol – gan gynnwys ar gyfer Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Taliadau – y tu allan i’r cyfarfod, ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben yn fuan. At hynny, fe wnaethant gytuno i ymestyn penodiad presennol Bob Evans fel Cynghorydd Annibynnol am ddwy flynedd ychwanegol, gan ddisgwyl y byddai'n parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adolygiad interim o Gyflogau 2022

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am yr Adolygiad Interim o Gyflogau – a gynhaliwyd fel y cynlluniwyd ym mis Mai a mis Mehefin eleni fel rhan o’r cytundeb presennol sydd ar waith hyd at 2025 – a chawsant eu hysbysu am Bleidlais ar Streic Genedlaethol ynghylch Cyflogau a oedd wedi agor, ac a fyddai'n cau ar 6 Tachwedd. Trafododd y Comisiynwyr yr amgylchedd presennol o ran cyflogau a chostau byw a gofyn am gael eu cadw i’r funud.


Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiadau, ar swyddogaeth y Pwyllgor Taliadau ac ar y rôl sicrwydd a chynghori ehangach, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ac economaidd-gymdeithasol fel mater o ddiddordeb arbennig. Mae’r Pwyllgor wedi cymryd diddordeb allweddol ym metrigau blynyddol y Comisiwn ac yn falch o nodi canlyniadau cadarnhaol yn yr adroddiadau amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig dangosyddion cynnar o gynnydd o ran denu gwell amrywiaeth o ymgeiswyr a datblygu Cynllun Interniaeth Lleiafrifoedd Ethnig newydd.

 

Croesawodd y Comisiynwyr y sicrwydd a ddarparwyd gan y Cynghorwyr Annibynnol, yn unigol a thrwy'r Pwyllgorau, a nodwyd adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu.


Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Cynghorwyr Annibynnol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Y diweddaraf am recriwtio lefel uwch

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Ddirprwyaeth ar gyfer ymgynghori, hysbyswyd y Comisiwn am y cynnydd a wnaed tuag at y cynigion y cytunwyd arnynt yn flaenorol i wneud newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwr fel rhan o’r gwaith o addasu'r uwch strwythur.

Cawsant y wybodaeth ddiweddaraf am werthusiadau a oedd wedi digwydd ac ymarferion recriwtio ar y gweill. Roedd y rhain yn ymwneud â swyddi'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Adnoddau a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd.

Gwnaeth aelodau Bwrdd Gweithredol y Comisiwn, ac eithrio’r Clerc, eu hunain yn absennol ar gyfer yr eitem hon.


Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) ac Ailstrwythuro Uwch Swyddi

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, a nodwyd gan y Comisiynwyr. Roedd y Pwyllgor wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cyfleoedd i ysgogi cynrychiolaeth gymdeithasol-economaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well o fewn y Comisiwn, ac wedi rhoi ffocws i ymatebion i Covid mewn perthynas â gweithlu'r Comisiwn ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gwnaeth holl swyddogion y Comisiwn, ac eithrio'r Clerc, eu hunain yn absennol o'r drafodaeth ar ailstrwythuro uwch swyddi. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynigion i wneud newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwyr a nodwyd trefniadau ar gyfer uwch staff sy'n rhan o'r Bwrdd Gweithredol.


Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu (REWAC)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu, adroddiad y Pwyllgor i'r Comisiwn am y tro cyntaf ers cytuno ar y cylch gwaith sydd wedi’i ehangu. Trafododd Sarah rai themâu tebyg i'r rhai a godwyd gan Bob Evans, gan adlewyrchu gyda'r Comisiwn ar safon y sefydliad a'i staff, a phwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â phobl Cymru.

Nododd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol REWAC.


Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Nododd y Comisiwn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Cynulliad ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) - Cylch Gorchwyl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Darparwyd i'r Aelodau ddiweddariad o gylch gorchwyl y Pwyllgor Taliadau, gan ehangu ei ffocws o'r hyn yr oedd yn canolbwyntio arno'n flaenorol. Nodwyd hyn. Roedd hyn yn adlewyrchu awydd i wneud defnydd da o'r ystod arbenigedd a ddaw gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Nodwyd penodiad Cadeiryddion REWAC ac ACARAC:

·         Cadeirydd ACARAC - Bob Evans

·         Cadeirydd REWAC - Sarah Pinch

 


Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau. Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a ffafrir gan y Panel Dethol.


Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43
  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Disgrifiodd Helena Feltham, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Taliadau, waith y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf. Eglurodd, er mai rôl gynghori sydd gan y Pwyllgor, mae'n gadarn yn ei waith, ac felly mae'n adnodd effeithiol o safbwynt llywodraethu.

 

Diolchodd y Llywydd i Helena a'r Pwyllgor am eu gwaith.

 

 


Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 2013-14

papur 5

Cofnodion:

Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor yn cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, ar eu cyfrifoldebau o ran polisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol, a’u cymeradwyo. Bydd y Pwyllgor yn ystyried argymhellion a wneir gan y Llywydd ynghylch perfformiad y Prif Weithredwr, a chan y Prif Weithredwr ynghylch Cyfarwyddwyr.

Nid oes ganddo bwerau gweithredol, ac mae’n ofynnol iddo wneud adroddiad blynyddol ffurfiol i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.

Helena Feltham yw Cadeirydd y Pwyllgor erbyn hyn, ac mae Eric Gregory a Keith Baldwin yn aelodau ohono, ac mae pob un ohonynt yn Gynghorwyr Annibynnol i’r Comisiwn. 

Nododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor, yn benodol:

-       Roedd y Cyfarwyddwyr wedi perfformio i safon dderbyniol, sy’n caniatáu i hawliau cytundebol i godiadau cynyddrannol (sy’n gysylltiedig â pherfformiad boddhaol) gael eu gweithredu, lle nad yw’r unigolyn eisoes wedi cyrraedd y radd darged ar gyfer y band cyflog.

-       Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y Strategaeth ar Gyflogau ar gyfer staff y Comisiwn, a lywiodd y setliad y cytunwyd arno gydag Undebau Llafur y Cynulliad ym mis Mawrth 2014. Byddai’r setliad newydd yn para o 1 Hydref 2013 tan 30 Medi 2016. Byddai’r Pwyllgor yn cynorthwyo i ddatblygu opsiynau ar gyfer strategaethau talu yn y dyfodol, yn barod ar gyfer eu hystyried yn 2016.

Nodwyd adroddiad y Pwyllgor yn ffurfiol. Roedd y Comisiynwyr am gofnodi eu diolch i Tony Morgan am gadeirio’r Pwyllgor blaenorol.


Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

papur 3

Cofnodion:

Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.  Ar gais, mae’r Pwyllgor yn cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu ar eu cyfrifoldebau i gymeradwyo a pholisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol.  Mae’n gweithredu mewn capasiti cynghorol, ac nid oes ganddo bwerau gweithredol.  Yn unol â’i gylch gorchwyl, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad blynyddol ffurfiol ar ei waith i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.

Cyfarfu’r Pwyllgor unwaith yn ystod 2012-13 ar 19 Ebrill 2012 ac roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys:

·           y Strategaeth Wobrwyo Ddrafft ar gyfer Staff y Cynulliad;

·           adolygiad o gyflog a pherfformiad y Tîm Gweithredol.

Yn ogystal â’r rhain, ystyriodd y Pwyllgor bolisi cyflog y sector cyhoeddus yn fwy eang i sicrhau bod ei gyngor yn cael ei roi o fewn y cyd-destun ehangach hwn.

Cytunodd y Pwyllgor i’r strategaeth gyffredinol gael ei defnyddio i ddatblygu trefniadau gwobrwyo mewn cysylltiad â’r cytundeb cyflog 18 mis sy’n dod i ben ym mis Medi 2013, a oedd yn cyd-fynd â’r cyd-destun economaidd ehangach yng Nghymru a gweddill y DU.

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad.


Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Y Pwyllgor Taliadau

Papur 8 i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chylch gorchwyl diwygiedig Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Cynulliad.


Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

7 Cofnodion y Pwyllgor Taliadau

Dogfennau ategol:

  • RC2011(1) Minutes of meeting - 13 April 2011

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion.