Cyfarfodydd

P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Simon Mann, Pennaeth Adran Dosimetreg Ymbelydredd y Ganolfan Peryglon Ymbelydredd, Cemegolion a Pheryglon Amgylcheddol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at Ganolfan Ymbelydredd, Cemegion a Pheryglon Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr i ofyn pa gamau y maent wedi’u cymryd ar ôl cael gwybodaeth a anfonwyd atynt gan y Gweinidog ar gais y Pwyllgor blaenorol.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebwyr, ynghyd â deunydd ychwanegol a ddarparwyd, at y Gweinidog a gofyn iddi eu rhannu â PHE-CRCE, cyn penderfynu a ddylid cau'r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn flaenorol, penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn ar:

·         y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac

·         a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn iddo ddarparu tystiolaeth gryno a chadarn a adolygir gan gymheiriaid er mwyn dangos yr angen am ymchwiliad; ac

·         Unwaith y bydd ymateb y deisebydd wedi dod i law, ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd gan OFCOM ac a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar Beryglon Ymbelydrol, Cemegol ac Amgylcheddol (PHE-CRCE) yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         OFcom

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb ac, yn achos OFCOM, i weld a oeddent yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil diweddar i’r mater hwn.