Cyfarfodydd
Dulliau o weithio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/04/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cefnogi Aelodau o ran Covid-19
·
Papur
trosolwg – Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
1.1
Trafododd
y Bwrdd ei opsiynau mewn perthynas â chefnogi’r Aelodau wrth ymateb i argyfwng
Covid-19.
1.2
Cytunodd
y Bwrdd i beidio â darparu costau swyddfa ychwanegol ar hyn o bryd, ond i
adolygu'r sefyllfa'n gyson.
1.3
Cytunodd
y Bwrdd i barhau â’r status quo ar gyfer y ddarpariaeth staffio am y tro.
1.4
Cytunodd
y Bwrdd i drafod sefydlu lwfans canolog i ariannu lwfans gweithio gartref ar
gyfer staff cymorth, yn seiliedig ar gyfraddau Cyllid a Thollau EM. Nododd y
Bwrdd mai’r Aelod dan sylw fyddai’n penderfynu ei ddarparu i’w staff ai peidio.
1.5
Trafododd
y Bwrdd pa ddarpariaethau pellach y gallai eu rhoi ar waith i gefnogi
trefniadau gweithio hyblyg. Cytunodd y Bwrdd i sicrhau cymaint o hyblygrwydd â
phosibl lle y bo modd, ac y byddai'n rhoi ystod o opsiynau ar waith i helpu’r
Aelodau i gefnogi eu staff i weithio'n hyblyg lle y bo angen.
Cam
gweithredu:
-
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi llythyr at yr Aelodau a’r staff cymorth yn amlinellu
penderfyniadau’r Bwrdd.
Cyfarfod: 27/02/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o effeithiolrwydd y of the Bwrdd
·
Papur
cwmpasu’r adolygiad – Papur 6
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
4.1
Croesawodd
y Bwrdd Gareth Watts, y Pennaeth Llywodraethu, i'r cyfarfod.
4.2
Ystyriodd
y Bwrdd gynigion i gynnal adolygiad diwedd tymor o'i effeithiolrwydd, gan
gynnwys cwmpas yr adolygiad, y cylch gorchwyl drafft a'r themâu i edrych arnynt
ymhellach.
4.3
Cytunodd
y Bwrdd i gynnal adolygiad diwedd tymor a fydd yn ystyried effeithiolrwydd
perfformiad y Bwrdd dros ei gyfnod; sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn
unol â Mesur 2010, a sut mae wedi cyflawni ei waith yn ôl ei strategaeth.
4.4
Disgwylir
y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2020 ac y bydd yn llywio
adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd ei
gyfnod.
Cam gweithredu:
-
Yr
ysgrifenyddiaeth i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd gwaith y Bwrdd ac adrodd
yn ôl i'r Bwrdd yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i'w thrafod: Y broses ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r Cynulliad: Y broses hawliadau, apeliadau ac achosion busnes
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
5.1
Trafododd y Bwrdd y prosesau ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r
Cynulliad, a chytunodd arnynt.
Cyfarfod: 24/05/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Strategaeth Ymgysylltu'r Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Bwrdd ei strategaeth ymgysylltu a chytunodd i:
·
ystyried yr opsiynau i ddatblygu ei microwefan annibynnol ei hun a
phresenoldeb yn y cyfryngau cymdeithas; a
·
datblygu strategaeth ymgysylltu pwrpasol ar gyfer pob darn o waith.
Camau gweithredu:
Yr Ysgrifenyddiaeth i:
·
baratoi enghraifft o sut gallai microwefan y Bwrdd edrych; a
·
nodi ffyrdd o fynd ati i ymgysylltu a chyfathrebu ar gyfer gwaith sydd ar y
gweill.
Cyfarfod: 15/09/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Ymweliadau â swyddfeydd etholaethol Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru
Cofnodion:
Dydd Gwener 16
Medi 2016:
4.1 Ymwelodd y Bwrdd â detholiad o Aelodau'r
Cynulliad yng ngogledd Cymru i gael dealltwriaeth well o'r heriau a wynebir gan
yr Aelodau yn eu swyddfeydd etholaethol, y gwaith a wneir gan y staff cymorth,
ac i gael trafodaeth gyffredinol er mwyn darparu'r bwrdd gyda mwy o wybodaeth
gyd-destunol.
4.2 Byddai'r Bwrdd yn defnyddio'r dystiolaeth
hon i lywio ei strategaeth yn ystod y Pumed Cynulliad.
Cyfarfod: 15/09/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Ein Strategaeth
Cofnodion:
3.1 Cynhaliodd y
Bwrdd ddiwrnod strategaeth i flaenoriaethu meysydd gwaith ar gyfer gweddill
mandad y Bwrdd ac i baratoi ar gyfer y Chweched Cynulliad.
3.2 Hwyluswyd y
diwrnod strategaeth gan Roger Dobson, arbenigwr mewn Adnoddau Dynol, a Ben
Shimshon o Britain Thinks.
3.3 Mewn
trafodaeth, ystyriodd y Bwrdd ei nodau strategol a datblygodd gyfres
uchelgeisiol o flaenoriaethau sy'n canolbwyntio ar ymgynghori, ymgysylltu a
chasglu tystiolaeth.
3.4 Cytunodd y Bwrdd i ddatblygu dogfen strategaeth sy'n
nodi ei egwyddorion, ei flaenoriaethau a'i amcanion ar gyfer y Pumed Cynulliad,
gan ganolbwyntio ar greu Penderfyniad sy'n addas ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 9)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cynigion ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
9.1 Trafododd y Bwrdd bapur gyda chynigion ar gyfer
diwrnod strategaeth y Bwrdd ym mis Medi a fyddai'n digwydd ym Mae Colwyn.
9.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid ystyried dulliau ac
egwyddorion ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol. Byddai'r Bwrdd hefyd yn trafod
y posibilrwydd o wahodd hwyluswr i'r cyfarfod i lywio trafodaethau strategol y
Bwrdd.
9.3 Cytunodd y Bwrdd i ymweld â swyddfeydd etholaethol yng
Ngogledd Cymru i ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad.
Camau
gweithredu:
• Bydd y
Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi papur briffio ar enghreifftiau o arfer rhyngwladol o
bennu tâl Aelodau etholedig, i'w gyflwyno wythnosau cyn y diwrnod strategaeth.
• Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn cynllunio rhaglen ar gyfer y diwrnod strategaeth.
• Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â hwyluswyr posibl.
• Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn trefnu ymweliadau â swyddfeydd Aelodau Cynulliad yng
Ngogledd Cymru.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 8)
Ymgysylltu Aelodau yn y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
8.1
Cytunodd y Bwrdd i gynnal sesiwn galw heibio yn y Senedd ddydd Mawrth 5
Gorffennaf.
8.2
Bu'r Bwrdd yn trafod negeseuon allweddol i atgyfnerthu ei ymagwedd at ei
rôl a'i gylch gwaith. Y nod oedd sicrhau
cysondeb y negeseuon a gaiff eu cyfleu.
8.3
Cytunodd y Bwrdd fod y dull hwn yn galluogi'r Bwrdd i ymateb i'r materion
allweddol a nodwyd yn Adroddiad Etifeddiaeth y Bwrdd blaenorol ac sy'n cael eu
hystyried hefyd yng nghyd-destun y ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a
Chanllawiau Ategol arfaethedig.
8.4
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n siarad
ag Aelodau Cynulliad yn gynnar yn y Pumed Cynulliad er mwyn clywed am eu barn
a'u profiadau o ran effeithiolrwydd y lwfans dirwyn i ben.
8.5
Gofynnodd y Bwrdd am i'r adroddiad archwilio ar lwfansau Aelodau gael ei
gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8.6
Cyfarwyddodd y Bwrdd yr ysgrifenyddiaeth i gydweithio â grwpiau'r pleidiau
er mwyn trefnu slotiau yng nghyfarfodydd y pleidiau cyn gynted ag y bo hynny'n
ymarferol bosibl. Awgrymodd y Cadeirydd
y byddai'n ddymunol ac yn angenrheidiol i aelodau'r Bwrdd fod ar gael i
gefnogi'r Cadeirydd neu gynrychioli'r Bwrdd eu hunain yn y cyfarfodydd
hynny.
8.7
Gofynnodd y Bwrdd am nodyn briffio gan yr ysgrifenyddiaeth i lywio'r
trafodaethau yng nghyfarfodydd y pleidiau.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynigion ar gyfer Egwyddorion Llywodraethu a chanllawiau ar gynnal busnes y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
6.1
Trafododd y Bwrdd ddiwygiadau i'r
ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a Chanllawiau ar Gynnal Busnes drafft
6.2
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod
cynnwys y ddogfen hon ar y diwrnod cwrdd i ffwrdd.
6.3
Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y
disgrifiadau o rôl ac egwyddorion y Bwrdd yn y ddogfen ddrafft i'w gwneud yn
gliriach.
6.4
Cytunodd y Bwrdd y dylai fabwysiadu
cynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad gan ei fod yn enghraifft o
arfer da. Dylai'r ddogfen ddrafft
adlewyrchu hyn.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Cynnig ar gyfer Siarter y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Adborth o’r ymweliad â’r Dail
PAC(4)-32-14 papur 2
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1
Ystyriodd y Pwyllgor bapur yn dilyn eu hymweliad â Dail.
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7.)
Paratoi ar gyfer y cyfarfod â Chomisiwn y Cynulliad
Cyfarfod: 19/06/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)
Papur briffio gan staff Comisiwn y Cynulliad ar Ryddid Gwybodaeth
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Archwiliad o weithgareddau a chylch gwaith y Bwrdd
• Nodyn o'r
archwiliad mewnol – Papur 9
Cinio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
4.1 Gwahoddodd y Bwrdd Gareth Watts, Archwilydd
Mewnol, i'r cyfarfod.
4.2 Cytunodd y Bwrdd â'r cynigion ar gyfer archwiliad
mewnol a thrafododd cwmpas a methodoleg adolygiad o'r fath.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 8)
Trafodaeth ynghylch cynghorydd arbenigol
Cyfarfod: 18/10/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Trafod ffyrdd o weithio
1. Trafododd y
Bwrdd ddulliau o weithio.
Cofnodion:
1. Trafododd y
Bwrdd ddulliau o weithio.