Cyfarfodydd

Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/02/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad a’r cynigion newid enw

·         Papur trosolwg – Papur 5

·         Ymatebion i’r ymgynghoriad – Papur 5 – Atodiad A

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

3.1        Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2020-21 a’r cynigion o ran y newid enw.

3.2        Penderfynodd y Bwrdd gynyddu’r lwfans gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol 1.7 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn cynyddu'r lwfans i £9,720 y flwyddyn (sef £810 fesul mis calendr).

3.3        Cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant a fydd yn golygu bod y lwfans yn £999,070 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

3.4        Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar gyfyngiadau ar allu'r Aelodau i recriwtio ar gyfer contractau cyfnod penodol drwy ddiwygio'r Polisi Recriwtio. Byddai recriwtio o'r fath yn destun cyfyngiad o 18 mis yn lle'r cyfyngiad chwe mis presennol. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r penderfyniad yn dod i rym o'r flwyddyn ariannol nesaf. 

3.5        Cytunodd y Bwrdd i ddiwygio'r Polisi Recriwtio i adlewyrchu'r penderfyniad hwn. Bydd y Polisi Recriwtio yn parhau i nodi y bydd pob penodiad sy'n hwy na chwe mis yn destun proses recriwtio agored a theg.

3.6        Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddiwygio'r adran ar Gymorth Dros Dro yn y Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn i ddod i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.

3.7        Nododd y Bwrdd y bydd newid enw'r Cynulliad i'r Senedd yn digwydd ar 6 Mai 2020. Cynigiodd y Bwrdd ei bod yn rhesymol na ddylai Aelodau allu hawlio costau diweddaru eitemau o ganlyniad i'r newid enw, fel arwyddion swyddfa, cyn etholiad nesaf y Cynulliad.

3.8        Cytunodd y Bwrdd i beidio â chaniatáu i Aelodau hawlio costau adnewyddu eitemau sy'n gysylltiedig â newid enw cyn yr etholiad nesaf. Mae'r Bwrdd yn cadw at ei farn flaenorol fod hwn yn ddull priodol oherwydd y trosiant posibl yn nifer yr Aelodau mewn etholiad a hyd oes fer arwyddion newydd.

3.9        Cyhoeddir fersiwn wedi'i diweddaru o'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf maes o law.

 


Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)

Eitem i’w thrafod: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2020-21

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2020-21.

6.2     Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2020-201). Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant.

6.3     Yn dilyn dadansoddiad o'r wybodaeth a oedd ar gael, cytunodd y Bwrdd fod gwariant Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y lwfans cyfredol yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Yn sgil hynny, penderfynodd y Bwrdd gynnal y lwfansau o £18,260 a £4,912 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.4     Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau cysylltiedig, gan gynnwys faint y mae Aelodau’n ei wario ar lety, costau'r farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant. 

6.5     Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £9,710 y flwyddyn.

6.6     Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.7     Mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi ychwanegol), yn ogystal â chyflogau eu staff cymorth, yn cael eu haddasu'n awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd mai'r newid eleni yw 4.4 y cant. Felly, dyma’r swm a ddefnyddir i addasu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2020-21.

6.8     Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe'i defnyddir hefyd i dalu costau staffio eraill, fel teithio, yn ogystal ag offer swyddfa a deunyddiau. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o gyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn, sy’n parhau i gynyddu. Yn sgil hynny, cytunodd y byddai’n defnyddio dull arall i addasu cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

6.9     Gwnaeth y Bwrdd gynnig bod cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) yn cynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, a bod gweddill y lwfans yn cael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant.  Mae'r Bwrdd o'r farn bod y newid hwn yn un teg a fydd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11
  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

1.1.     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd i'w gynigion fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad.

Lwfans Costau Swyddfa

1.2.     Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd ynghylch ei gynigion i gynnal y lwfans Costau Swyddfa ar gyfer ei Benderfyniad nesaf. Fodd bynnag, gan nad oedd dim tystiolaeth i awgrymu y dylid cynyddu'r lwfans, cytunodd y Bwrdd i weithredu ei gynigion sy'n cynnal y lwfansau ar y gyfradd bresennol.

Gwariant ar Lety Preswyl

1.3.     Nododd y Bwrdd y gefnogaeth i'w gynigion i ddiwygio'r darpariaethau ynghylch y lwfans ardal ryngol, ar gyfer cynyddu'r gwerth ac egluro ei ddefnydd, a chytunodd i weithredu'r newidiadau yn ei Benderfyniad nesaf.

1.4.     Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynyddu'r lwfans ardal allanol 2.4 y cant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018.

1.5.     Cytunodd y Bwrdd i gynnal yr holl lwfansau eraill sy'n gysylltiedig â Gwariant ar Lety Preswyl.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:

-        ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'r staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2019-20, gan gynnwys manylion eu cyflogau a fydd yn cynyddu 1.2 y cant yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), Enillion Canolrif gros ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru;

-        cyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig.

 


Cyfarfod: 17/01/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Eitem i benderfynu yn ei chylch: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16
  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth

5.1      Cyfeiriodd y Bwrdd at ei benderfyniad cynharach (eitem dau) i addasu cyflogau staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn ôl enillion gros canolrifol yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer swyddi cyflogedig amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn sicrhau cysondeb rhwng y modd y caiff cyflogau staff cymorth a’r Aelodau eu mynegeio.

5.2      O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth yn codi 1.2 y cant.

5.3      Gan y byddai’r newid yn weithredol o 1 Ebrill 2019 ymlaen, cytunodd y Bwrdd i beidio â chynnig unrhyw newidiadau ychwanegol i gyflogau staff cymorth yn 2019-20. Bydd y cyflogau diwygiedig yn rhan o’r Penderfyniad ar gyfer 2019-20.

Lwfans Costau Swyddfa

5.4      Trafododd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa’r Aelodau.

5.5      Cytunodd y Bwrdd fod y swm y mae’r Aelodau’n ei wario’n dangos bod y lwfans presennol yn ddigonol ac, o ganlyniad, penderfynodd ei adael fel y mae, sef £18,260 a £4,912, yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20

Gwariant ar Lety Preswyl

5.6      Trafododd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar y swm y mae’r Aelodau’n ei wario ar lety preswyl

5.7      Nododd y Bwrdd nad yw’r lwfans ardal allanol wedi newid ers 2017-18.

5.8      Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018, sef 2.4 y cant, fel cyfradd i godi'r lwfans ardal allanol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion ag y mae'r Bwrdd wedi eu defnyddio i godi lwfansau eraill yn y gorffennol. Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.4 y cant yn y lwfans.

5.9      Cytunodd y Bwrdd mai’r uchafswm ar gyfer gwaith trwsio hanfodol fydd £882 y flwyddyn a’r uchafswm ar gyfer costau rhent Aelodau a chanddynt ddibynyddion - dim ond Aelodau y mae eu prif gartref yn yr ardal allanol sy’n cael hawlio’r lwfans hwn.

5.10   Nododd y Bwrdd nad yw’r lwfans ardal ryngol wedi newid ers ei gyflwyno.

5.11   Er mwyn adlewyrchu'r angen cynyddol i Aelodau  aros dros nos ym Mae Caerdydd ers i'r lwfans ardal ryngol gael ei gyflwyno gyntaf yn 2012, cytunodd y Bwrdd i gynnig cynyddu'r lwfans i £6,840 y flwyddyn.

5.12   Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnig newid geiriad y ddarpariaeth yn unol â hynny i adlewyrchu’r ffaith bod modd defnyddio’r lwfans droeon.

Ymgynghoriad

5.13   Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ynghylch yr holl gynigion uchod. Y dyddiad cau fyddai 12 Mawrth 2019.

5.14   Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth

Camau i’w cymryd:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-     paratoi Penderfyniad diwygiedig i adlewyrchu'r newidiadau yng nghyflogau staff cymorth;

-     cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-     paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w hystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.

 


Cyfarfod: 15/03/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2018-19

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2018-19

2.1.    Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law ar y cynigion i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant yn unol â ffigurau 2017 dros dro ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru.

2.2.    Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

2.3.    Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar y cynigion i:

-    gynyddu lwfans costau swyddfa 5 y cant yn unol â chyfradd CPI ar gyfer mis Medi 2017 ac i fynd i'r afael â'r galw am gostau cynyddol y disgwylir i Aelodau eu hariannu o'u cyllidebau;

-    cynnig lwfans heb ei gapio a fydd yn cael ei gyfyngu i'r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i Aelodau weithredu argymhellion diogelwch.

2.4.    Yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r lwfans costau swyddfa 5 y cant ar gyfer 2018-19 a'r darpariaethau newydd ar gyfer gweithredu argymhellion diogelwch.

 

Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer 2018-19

2.5.    Trafododd y Bwrdd yr ymateb i'r ymgynghoriad ar ei benderfyniad y dylid cynnal y lwfans presennol ar gyfer Aelodau y tu allan i'r ardal o £9,200 y flwyddyn/£775 bob mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn a'r uchafswm o gostau rhent i Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.

2.6.    Cytunodd y Bwrdd i gynnal y darpariaethau o fewn y Penderfyniad ar gyfer y lwfans ond i ystyried y materion a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Camau gweithredu:

Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ystod darnau perthnasol o waith.

Yr ysgrifenyddiaeth i:

-    gyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig;

-    ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer 2018-19.  


Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2018-19

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23
  • Cyfyngedig 24
  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Cyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19

5.1         Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.3 y cant yng nghyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19 yn unol â ffigurau’r Arolwg Blynyddol o Oriau a Enillion (ASHE) dros dro ar gyfer 2017 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017

5.2         Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE er mwyn bod yn gyson â’r adolygiad o daliadau y llynedd.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

5.3         Ystyriodd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa yr Aelodau, gan gynnwys lleoliad, chwyddiant, offer arbenigol a pholisïau Comisiwn y Cynulliad.

5.4          Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer mis Medi 2017, sef 3 y cant, fel cyfradd sylfaenol i gynyddu'r lwfans. Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion â’r cynnydd y llynedd.

5.5         Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn sgil penderfyniad y Comisiwn i beidio ag ariannu system gweithwyr achos yr Aelodau yn ganolog a gofynion estynedig y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 5 y cant yn y lwfans ar gyfer 2018-19.

5.6         Hefyd, ystyriodd y Bwrdd lwfans y gall yr Aelodau ei gael i dalu costau rhesymol unrhyw welliannau diogelwch a chytunwyd i gynnig bod lwfans diderfyn yn cael ei greu at y diben hwn. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r Aelodau gydymffurfio â meini prawf penodol er mwyn defnyddio’r lwfans.

Gwariant ar Lety Preswyl

5.7         Ystyriodd y Bwrdd y Gwariant Llety Preswyl ar gyfer 2018-19 a phenderfynwyd parhau â’r lwfans cyfredol ar gyfer Aelodau'r ardal allanol o £9,200 y flwyddyn/£775 fesul mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn, ac uchafswm y costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.

Ymgynghoriad

5.8         Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ymgynghoriad ar yr holl gynigion uchod. 2 Mawrth 2018 yw dyddiad cau’r ymgynghoriad.

5.9         Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

Camau gweithredu:

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:

-     gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-     paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.


Cyfarfod: 23/03/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18

2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymateb a gafodd i'r ymgynghoriad ynghylch y cynnydd arfaethedig i gyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 o 2.1 y cant, yn unol â ffigurau dros dro 2016 yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad o 2.1 y cant ar gyfer 2017-18.

 

2.3 Nododd y Bwrdd fod cyflog Aelodau'r Cynulliad yn cynyddu'n awtomatig yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru, fel y nodir yn y Penderfyniad.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd cyflog ar eu cyfer. 

·         Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Costau swyddfa ar gyfer 2017-18

2.4 Nododd y Bwrdd na chafwyd unrhyw ymatebion i'w ymgynghoriad ar y cynnydd arfaethedig o 1.2 y cant i lwfans costau swyddfa yn unol â'r amcangyfrif ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Tachwedd 2016.

 

2.5 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu lwfans costau swyddfa o 1.2 y cant erbyn 2017-18.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd yn y lwfans costau swyddfa.

 

Gwariant ar Lety Preswyl

2.6 Nododd y Bwrdd y bydd yr ymgynghoriad i gynyddu gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sydd y tu allan i'r ardal i £775 y mis yn dod i ben ar 13 Ebrill. Cytunodd y Bwrdd y gwneir penderfyniad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad y tu allan i gyfarfod ffurfiol y Bwrdd.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r Bwrdd eu hystyried.

 


Cyfarfod: 26/01/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31
  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18

4.1 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.1% yng nghyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 yn unol â chanolrif enillion yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2016 yng Nghymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016.

 

4.2 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE eleni er mwyn bod yn gyson ag adolygiad cyflogau y llynedd. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd i barhau i fonitro pa mor briodol yw'r dull hwn o fynegeio.

 

4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r gwaith a wnaeth y Bwrdd blaenorol ar y pwnc hwn.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Costau swyddfa ar gyfer 2017-18

4.4 Trafododd y Bwrdd y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar gostau swyddfa'r Aelodau, gan gynnwys lleoliad, offer arbenigol ac ati.

 

4.5 Nododd y Bwrdd fod y cynnydd diwethaf yn y costau swyddfa yn seiliedig ar gyfraddau'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI). Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r un egwyddor eto eleni. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ailystyried pan fydd y Bwrdd yn cynnal ei adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad.

 

4.6 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 1.2% yn y lwfans costau swyddfa yn unol ag amcangyfrif CPI hyd at fis Tachwedd 2016.

 

4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Y Gwariant ar Lety Preswyl

4.8 Trafododd y Bwrdd y ffactorau sy'n effeithio ar y Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhagor o wybodaeth cyn ymgynghori ar gyfradd y gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol a bydd yn dychwelyd at y mater maes o law.

 

4.9 Trafododd y Bwrdd ddau lwfans atodol i Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol ar gyfer 2017-18. Cytunodd y Bwrdd i gynnal y symiau blynyddol presennol a ganlyn:

·         £882 ar gyfer atgyweiriadau hanfodol yn achos yr Aelodau hynny sydd â hawl i log ar forgais; a

·         £1,440 ar gyfer Aelodau gyda dibynyddion sy'n byw fel mater o drefn gyda hwy yn eu heiddo yng Nghaerdydd.

 

4.10 Cytunodd y Bwrdd i ailystyried y materion hyn pan fydd yn cynnal ei adolygiad i effeithiolrwydd y Penderfyniad.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am y gost o rentu ym Mae Caerdydd ac i ddosbarthu'r casgliadau i'r Bwrdd er mwyn cyhoeddi unrhyw ymgynghoriad cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd pe byddai'n dymuno newid y lwfansau preswyl ar gyfer 2017-18 y cytunir ar hyn yn electronig y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd.


Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad: Ystyried ymatebion i ymgynghoriad 2016-17

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

3.1        Trafododd y Bwrdd y gwelliannau a ganlyn i Benderfyniad drafft 2016-17 a'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Cytunodd y Bwrdd i gymryd y camau a ganlyn:

 

·         cynyddu cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17 1. 1 y cant yn unol â ffigurau arfaethedig 2015 ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru (i'w weithredu ar 1 Ebrill);

·         cadw'r terfyn uchaf ar gyfer hawlio lwfans llety preswyl i Aelodau o'r ardal allanol, sef £735 y mis ar gyfer taliadau rhent ar hyn o bryd, gosod lwfans gofalwyr o £1,440 y flwyddyn a chadw cyfradd y lwfans atodol ar gyfer llety preswyl sy'n ymwneud â gwaith atgyweirio hanfodol ar eiddo dan forgais, sef 10 y cant o lwfans blynyddol yr ardal allanol ar hyn o bryd;

·         cynyddu'r lwfans costau swyddfa 1 y cant (i'w weithredu ar 1 Ebrill); 

·         cynyddu cyfanswm y lwfans cymorth i bleidiau i £909,900.   Er mwyn symleiddio pethau, y ffigur a nodwyd yw £910,000.

 

3.2        Cytunodd y Bwrdd i drafod darpariaethau yn y Penderfyniad ynghylch Gwariant ar Lety Preswyl ar ôl ethol Aelodau newydd y Cynulliad pe bai unrhyw broblemau'n codi.

 

3.3       Cytunodd y Bwrdd i ymateb i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17 gan Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a Grŵp Llafur Cymru.  Cytunodd y Bwrdd i ystyried y materion a godwyd ynghylch cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad fel rhan o'i waith cynllunio strategol ym mis Medi. 

 

3.4       Mewn perthynas â'r lwfans costau swyddfa, nododd y Bwrdd fod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 0.3 y cant ar hyn o bryd a chaiff y ffigurau nesaf eu rhyddhau ar 22 Mawrth.  Bydd y ffigurau chwyddiant ar gyfer mis Ebrill 2016 yn cael eu cyhoeddi ganol mis Mai.

 

3.5        Nododd y Bwrdd y rhagolygon diweddaraf gan Fanc Lloegr (Chwefror 2016) o ran y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer chwyddiant yn chwarter cyntaf 2016, sef amcangyfrif o 0.4 y cant yn cynyddu i 1.2 y cant erbyn chwarter cyntaf 2017.

 

3.6        Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y Penderfyniad er mwyn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 1 y cant yn y lwfans costau swyddfa.

 

3.7       Nododd y Bwrdd fod y Penderfyniad cyfredol yn cyfeirio at 'Arweinydd yr Wrthblaid' ond nid yw'n nodi bod angen tri Aelod ar blaid er mwyn iddo fod yn grŵp a chael cyflog.  Cytunodd y Bwrdd y byddai newid y geiriad a'r Rheol Sefydlog berthnasol i adlewyrchu hyn yn gwneud y ddarpariaeth yn y Penderfyniad yn gliriach. 

 


Cyfarfod: 20/02/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Y Penderfyniad ar gyfer blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad: Ymatebion i’r ymgynghoriad


Cyfarfod: 29/08/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Lwfansau ACau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 42

Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Materion i wneud penderfyniad yn eu cylch yn sgîl ymatebion i'r ymgynghoriad

·         Crynhoad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad – Papur 4

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

2.1     Nododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 31 Ionawr 2014.


Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Adolygiad o'r Penderfyniad blynyddol

·         Papur 2c

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cofnodion:

2.7     Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau yn nodi'r meysydd i'w hystyried fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad.

 

2.8     Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ag Aelodau'r Cynulliad ar y cynigion i gynyddu 5% ar y lwfans rhenti ar gyfer Aelodau sydd â'u prif gartref o fewn yr Ardal Allanol, o £700 y mis, i £735 y mis, i adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad rhentu.

 

2.9     Cytunodd y Bwrdd hefyd i ymgynghori ar gynigion i gynyddu'r Lwfans Costau Swyddfa yn unol â chwyddiant (CPI), yn unol â chynnydd y flwyddyn flaenorol.


Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad

·         Papur 2- Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 

-        Atodiad A: Newidiadau drafft i'r Penderfyniad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50
  • Cyfyngedig 51

Cofnodion:

4.       Ar ôl ei gyfarfod ar 22 Mawrth, roedd Cadeirydd y Bwrdd wedi ysgrifennu at bob Aelod yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad yn sgîl yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

5.       Ystyriodd y Bwrdd adborth a gafwyd gan yr Aelodau cyn cadarnhau’r newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad yn derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Cytunodd y Bwrdd ar y penderfyniadau a ganlyn:

 

Lwfans costau swyddfa

6.       Cynyddu’r lwfans costau swyddfa i £16,697, ar gyfer 2013-14, yn unol â rhagolygon mynegai prisiau defnyddwyr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sef 2.8% ar gyfer 2013.

 

Lwfans llety - atgyweiriadau hanfodol

7.       Caniatáu taliadau ar gyfer atgyweiriadau angenrheidiol o fewn y lwfans llety, ar gyfer Aelodau o dan y trefniadau trosiannol. Byddai’r taliadau yn amodol ar gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau, a’i gapio ar £840 (10% o gyfanswm y gyllideb llety).

 

Gwaith diogelwch angenrheidiol ar gyfer eiddo nad yw’n brif gartref yr Aelod.

8.       Cymeradwyo hawliadau rhesymol am gostau gwaith diogelwch ychwanegol ar gyfer eiddo nad yw’n brif gartref yr Aelod y bernir ei fod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risiau diogelwch i’r eithaf. Byddai unrhyw daliadau yn amodol ar fod Aelod yn cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gan yr heddlu, yn cadarnhau bod rhagofalon o’r fath yn angenrheidiol, a phan fo’r gost yn £750 neu’n fwy, cael o leiaf dri amcangyfrif cystadleuol ar gyfer y gwaith a’r offer angenrheidiol i’w gyflawni.

 

Teithio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

9.       Newid y Penderfyniad er mwyn caniatáu i Aelodau deithio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, fel rhan o hawl presennol yr Aelodau i hyd at bedair taith ddwyffordd mewn blwyddyn ariannol. Byddai’n ofynnol bod dulliau diogelu priodol ar waith cyn cymeradwyo ymweliadau o’r fath, gan gynnwys cyflwyno achosion busnes i nodi gwerth a rhinweddau’r ymweliad arfaethedig i’r Aelod ac i’r Cynulliad, ac ymrwymiad i ddrafftio adroddiad ar ôl yr ymweliad i’w osod ar wefan y Cynulliad.

 

Ystyriaeth o daliadau eithriadol

10.     Bu’r Bwrdd yn trafod y mater hwn a’r materion ymarferol dan sylw er mwyn sicrhau y gellid dod i benderfyniad sydyn a sicrhau ar yr un pryd bod dulliau diogelu ar waith i warchod hunaniaeth a chyfrinachedd unigolion.

 

11.     Penderfynodd y Bwrdd y byddai’n ail-edrych ar y mater ac yn ei ystyried ymhellach yn ei gyfarfod nesaf ym mis Hydref.

 

Cymorth i Aelodau â chyfrifoldebau gofal

12.     Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad manwl ag Aelodau ar ôl toriad yr haf, i lywio ei waith o ystyried a yw am gyflwyno lwfans ar gyfer Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofal sy’n debyg i drefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Cyffredin a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

 

13.     Cofnodir y penderfyniadau hyn yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd ar gyfer 2012-13.

 

14.     Cytunodd y Bwrdd y bydd yn diweddaru geiriad y Penderfyniad yn gyffredinol fel rhan o’r adolygiad i baratoi ar gyfer y Pumed Cynulliad.