Cyfarfodydd
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 22.08.2016. Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd., Eitem 3 PDF 4 MB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig ac, yng ngoleuni ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac
mai ychydig yn fwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y mater ymlaen,
cytunodd i gau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 23 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- Briff cyfreithiol , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
- 21.03.2016 Gohebiaeth - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 150 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i:
·
ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ymchwil ar y cyd â
Chymdeithas Cadwraeth y Môr a Phrifysgol Abertawe i ymchwilio i’r mater hwn a
materion eraill a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd; ac i
·
bwysleisio pwysigrwydd casglu’r wybodaeth berthnasol i ddarparu’r
dystiolaeth angenrheidiol i fynd i’r afael â’r broblem.
Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 20.01.2016 Gohebiaeth – Cyngor Dinas Rhydychen at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/2) 4 KB
- Gohebiaeth – Cyngor Dinas Rhydychen at y Pwyllgor – Adroddiad, Eitem 3 PDF 125 KB Gweld fel HTML (3/3) 25 KB
- Gohebiaeth – Cyngor Dinas Rhydychen at y Pwyllgor – Atodiad A, Eitem 3 PDF 347 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
- disgwyl
barn y deisebydd;
- ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Pwyllgor ar y gwaith a gomisiynodd gan Gadw Cymru'n Daclus ynghylch
sbwriel polystyren a'i effaith ar yr amgylchedd ac ar bob math o sbwriel
arfordirol yng Nghymru, er mwyn canfod meysydd blaenoriaeth ar gyfer eu
gwella; a
- rhannu'r
wybodaeth a gafwyd gan Gyngor Dinas Rhydychen gyda Rob Curtis, y prif
ddeisebydd, a Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru ar gyfer y Gymdeithas
Cadwraeth Forol.
Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 30.03.2015 Gohebiaeth - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 231 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ystyried y ddeiseb eto,
gan gynnwys a ddylid pwyso ar y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar, unwaith y
bydd ymatebion oddi wrth ohebwyr eraill wedi dod i law.
Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trafod y Sesiwn dystiolaeth o gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2015 - Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 22 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- Trawsgrifiad Pwyllgor, Eitem 2 PDF 105 KB Gweld fel HTML (2/2) 92 KB
- Cyngor Cyfreithiol (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/3)
- 18.03.2015 Gohebiaeth gan Gymdeithas Cadwraeth y Môr i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 87 KB Gweld fel HTML (2/4) 75 KB
- 18.03.2015 Gohebiaeth gan rywun â diddordeb i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 25 KB Gweld fel HTML (2/5) 6 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i:
- glywed
tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
- gofyn am
sesiwn friffio ymchwil ar y costau posibl i fusnesau petaent yn newid o
ddefnyddio pecynnau polystyren i ddewisiadau mwy ecogyfeillgar;
- ysgrifennu
at Gyngor Sir Rhydychen yn gofyn am eu barn am y ddeiseb; a
- thynnu
sylw'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at y ddeiseb.
Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 22 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- Brieff , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
Cofnodion:
Atebodd y tystion
a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:
·
Rob
Curtis, Deisebydd a Chadeirydd Cyfeillion Traeth y Barri; a
·
Gill
Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol.
Cytunodd Rob
Curtis i anfon gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y gwaharddiad ar becynnau bwyd
polystyren mewn Dinasoedd ar dir mawr Ewrop.
Cyfarfod: 22/01/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Deiseb P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
E&S(4)-02-15
Papur 3
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau
yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 25.11.2014 Gohebiaeth - Deisebydd i'r tîm clercio, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/2) 3 KB
- Briff Ymchwil (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/3)
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
- i gyflawni darn o waith ar y
ddeiseb;
- ei fod yn fodlon â'r dull ar
gyfer ymdrin â’r gwaith hwn a amlinellir mewn papur gan y Gwasanaeth
Ymchwil;
- i hysbysu Pwyllgor Amgylchedd
a Chynaliadwyedd y Cynulliad am y ddeiseb a'r gwaith yr oedd wedi cytuno
ei wneud.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 17.07.2014 Gohebiaeth - Gweinidog Cyfoeth Naturiol i'r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 318 KB
- 17.09.2014 Gohebiaeth - Deisebydd I’r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 90 KB Gweld fel HTML (3/3) 39 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ofyn am
eglurhad gan y deisebwr ynghylch a ydynt yn dymuno parhau i ddilyn y mater, o
ystyried naws gadarnhaol eu gohebiaeth ddiweddar; ac
·
yn dibynnu
ar ymateb y deisebydd, cyflawni ‘darn o waith’ ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
1. ysgrifennu at y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb;
2. cysylltu â’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hysbysu am y ddeiseb; a
3. rhoi rhagor o
ystyriaeth i ymgymryd â gwaith ar y materion a godwyd.