Cyfarfodydd

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r arfer o saethu gwyddau talcen-wen yng Nghymru ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i:

·         groesawu ei ymateb;

·         gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o fanylion pellach yr ymgynghoriad arfaethedig fel y gall y deisebwyr gyfrannu ato; a

·         cheisio cael sicrwydd y bydd yr ymgynghoriad yn ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y cyfle i gyfrannu.

 

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad â Chanolfan Dyfi.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr. 

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi yn ymwneud â nifer o grwpiau sydd o blaid y ddeiseb.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebwyr; a
  • chau’r ddeiseb os nad oes sylwadau’n dod i law yn y 6 wythnos nesaf.

 

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd Joyce Watson am gofnodi ei bod yn aelod o’r RSPB.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Drosglwyddo llythyr yr Athro Fox i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar ei gynnwys, ac ar y rheswm pam mae’n ymddangos bod Lywodraeth Cymru wedi dangos ei bod yn erbyn diogelwch statudol i’r aderyn hwn er bod gwladwriaethau eraill wedi sicrhau hynny;

·         Gofyn iddo ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Athro Fox, drwy’r deisebydd, a yw’n gallu rhoi tystiolaeth o achosion o saethu er 2009, yn unol â chais swyddogion Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar sylwadau’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog a'r deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Adareg Cymru.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb.