Cyfarfodydd

P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb am i’r deisebwyr ddiolch i'r Pwyllgor am ei ran yn y mater hwn a nodi y byddent yn bwrw ymlaen â thrafodaethau yn y dyfodol â'r Prif Weinidog yn uniongyrchol. 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i ysgrifennu at Y Prif Weinidog, yn unol â chais y deisebwyr, yn gofyn iddo gynnal asesiad annibynnol o’r adnoddau sydd eu hangen ar y Mentrau Iaith i’w gweithredu i’w llawn botensial; ac

·         i aros am ymateb y Prif Weinidog cyn ystyried a ddylid gwahodd y deisebwyr i fynychu cyfarfod y Pwyllgor i egluro eu pryderon.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-541Cefnogaeth i'r Mentrau Iaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebwyr.

 

 

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-541Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog  i ofyn am ei farn am y ddeiseb.