Cyfarfodydd
TGCh yn y Siambr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Seiberddiogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr fanylion am y camau a gymerwyd eisoes i ddiogelu’r
Senedd rhag ymosodiadau seiber, ynghyd â’r camau gweithredu sydd yn yr arfaeth
neu a awgrymir at y dyfodol er mwyn aros yn barod i ddelio â natur esblygol y
bygythiad, sydd wedi dwysáu oherwydd digwyddiadau rhyngwladol diweddar.
Gofynnodd y
Comisiynwyr am i friffio uniongyrchol gael ei gynnig i bob un o'r grwpiau
plaid.
Cyfarfod: 17/09/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ailwampio'r Siambr
Eitem lafar
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf, yn gryno, gan y Cyfarwyddwr Adnoddau am
yr hyn a gyflawnwyd yn ystod toriad yr haf o ran y cynlluniau i ailwampio'r
Siambr.
Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig yn yr hyblygrwydd a'r manteision
y byddai'r darpariaethau newydd yn eu cyflwyno. Croesawyd y wybodaeth a'r
manylion am y cynllun cyfredol yn arwain at gyfnod y Diddymiad/toriad y Pasg
2016.
Cyfarfod: 04/12/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Prosiect adnewyddu'r Siambr – amcangyfrif o'r gost
Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Dewisiadau TGCh yn y dyfodol yn y Siambr
papur 2
Cofnodion:
Ar ôl ymgynghori ag Aelodau yn
gynharach yn ystod y flwyddyn, trafododd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am
y gwaith a wnaed i werthuso’r opsiynau ar gyfer darpariaeth TGCh yn y Siambr yn
y dyfodol.
Cynhaliwyd dadansoddiad manwl
o sut y gellid cyflwyno opsiynau dros doriad yr haf. Roedd y dadansoddiad hwn
yn cynnwys asesiad o rwyddineb defnydd, ymarferoldeb, hyblygrwydd, cynllun
bwrdd gwaith, ail-leoli botymau pleidleisio, arddangos gwybodaeth a sut y
gellid integreiddio datrysiad cwbl symudol yn system y Siambr. Gwnaeth y
dadansoddiad hefyd ddiystyru unrhyw newid a fyddai’n diraddio’r gwasanaeth
presennol neu ffyrdd o weithio yn y Siambr, a rhoi ystyriaeth i anghenion o ran
hygyrchedd, estheteg y Siambr, y Cyfarfod Llawn yn gweithredu’n ddidrafferth
a’r gost a’r amser i weithredu’r newid.
Trafododd y Comisiynwyr y
cynnig i gyfuno TGCh sefydlog a symudol a datrysiad meddalwedd newydd ar gyfer
Busnes y Cyfarfod Llawn. Mae’r datrysiad arfaethedig yn sicrhau y gallai
Aelodau gael mynediad i holl systemau a busnes y Cyfarfod Llawn. Yn ogystal,
gall yr Aelodau hynny sy’n dymuno defnyddio dyfais symudol wneud hynny ar gyfer
swyddogaethau busnes craidd (ac eithrio pleidleisio ac anfon negeseuon) wrth
i’r datrysiad meddalwedd newydd gael ei ddatblygu drwy 2015, a bydd yn cael ei
gefnogi’n llawn, drwy eu iPad neu Microsoft Surface. Byddai’n cyflwyno:
·
cynllun bwrdd gwaith newydd, gan roi mwy o le i’w
ddefnyddio a gwell ergonomeg;
·
panel pleidleisio/cyfieithu/sain newydd, a fydd yn
cael ei adleoli gyda botymau pleidleisio sy’n haws eu cyrraedd;
·
pleidleisio a fydd yn arddangos ar sgrin yr Aelod
er mwyn i bob Aelod weld ei bleidlais ei hun;
·
sgrin proffil isel newydd, sy’n cysylltu â’r
cyfrifiadur presennol a llygoden a bysellfwrdd di-wifr newydd, er mwyn cael
gwared ar ormod o geblau. Bydd drôr newydd yn cael ei osod o dan y ddesg, lle
gellir storio bysellfwrdd a llygoden yn hawdd pan nad oes eu hangen, gan greu
mwy o le ar y ddesg ar gyfer papurau neu ddyfais symudol; a
·
man gwefru dyfais symudol.
Nododd y Comisiynwyr pa mor
bwysig yw sicrhau bod asesiadau ergonomig ar gael, yn enwedig pan all Aelodau
fod yn gweithio am gyfnodau estynedig yn y Siambr. Bydd braslun o’r cynllun
newydd ar gael yn fuan i'r Aelodau ei weld.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y datrysiad arfaethedig ar gyfer darparu
TGCh yn y dyfodol yn y Siambr yn amodol ar gostau, a fydd yn cael ei baratoi’n
awr.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am TGCh a dewisiadau TGCh yn y dyfodol yn y Siambr - Papur 7
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Yn dilyn arolwg ac ymgynghoriad â'r
Aelodau a grwpiau'r pleidiau ac ar ôl cynnal dadansoddiad manwl o sut y gellid
cyflwyno dewisiadau dros doriad yr haf, cyflwynodd Dave Tosh y cynllun
arfaethedig i ail-gyflunio TGCh ar ddesgiau'r Aelodau yn y Siambr. Y dewis
mwyaf poblogaidd ymhlith yr Aelodau oedd cyfuniad o TGCh sefydlog a symudol fel
y gallent ddewis sut i ddefnyddio'u gweithfannau yn y Siambr. Byddai'r cynllun
arfaethedig yn gwarantu y gallai'r Aelodau ddefnyddio holl systemau a gweld
holl fusnes y Cyfarfod Llawn.
Derbyniodd y Bwrdd Rheoli y cynnig.
Byddai'r Comisiynwyr yn cael eu gwahodd i ddod i benderfyniad yn eu
cyfarfod ar 29 Medi.
Cam i'w gymryd: archwilio'r posibiliadau o ran brandio ar y tu allan i blât cefn y
weithfan.
Cyfarfod: 26/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adborth ar yr Ymgynghoriad ar TGCh yn y Siambr
Cyfarfod: 26/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Darpariaeth TGCh yn y Siambr yn y dyfodol