Cyfarfodydd

Ariannu Canolfan Cywain y Bala drwy arian cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Arian cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-11-14 (papur 3)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Arian cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala.

 

6.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

6.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad i'r mater hwn.