Cyfarfodydd
Dadl: Cymeradwyo drafft y ‘Cynllun Hawliau Plant 2014’ o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)
Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth
â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23
Mehefin 2015.
Mae'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ar
gael yma: http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/2/contents/enacted/welsh.
Dogfen Ategol
Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r
ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn
gyffredinol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o
dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn
gyffredinol.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd
o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn
gyffredinol.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl: Cymeradwyo drafft y ‘Cynllun Hawliau Plant 2014’ o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
NDM5489
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a
Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau Plant 2014 a
osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.
Dogfen Ategol
Drafft
y Cynllun Hawliau Plant 2014
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd
wedi’i gynnwys yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i
roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at
gymeradwyo cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar
fuddiannau gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn
sensitif i hawliau plant.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu
ymrwymiad Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy
gynnwys cyfeiriad at “sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol
a fyddai’n effeithio ar blant.
Mae Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y
Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) ar gael yn:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9064.pdf
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013
‘Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith
er mwyn sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng
rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".
Mae Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn
Realaeth yng Nghymru? ar gael yn:
https://www.savethechildren.org.uk/sites/default/files/docs/Rights_Here_Right_Now_Welsh.pdf
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau
Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn
atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif
ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo
cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau
gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i
hawliau plant.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a
Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu ymrwymiad Cymru i
Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gynnwys cyfeiriad at
“sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai’n effeithio
ar blant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
10 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau Nawr,
Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn
sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng
rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)
1. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun
Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.
2. Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys
yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif
ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo
cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau
gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i
hawliau plant.
3. Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau
Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn
sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng
rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.