Cyfarfodydd

Blaenraglen waith - y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/06/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

ARAC (23-03) Papur 11 - Y flaenraglen waith

 

14.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunwyd y byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gynnwys eitemau sy’n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynnwys cysylltiadau allanol. 

 


Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 20)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

ARAC (23-02) Papur 16 - Y flaenraglen waith

20.1 Codwyd nifer o eitemau agenda yn y dyfodol yn ystod y cyfarfod. Byddai blaenraglen waith ddiwygiedig yn cael ei rhannu ar ddechrau cyfarfod mis Mehefin. 

 


Cyfarfod: 13/02/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 10 - Y flaenraglen waith

 

11.1 Trafodwyd y flaenraglen waith, a chafodd aelodau newydd eu hannog i awgrymu eitemau yr hoffent eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

11.2 Croesawodd y Cadeirydd awgrym gan Menai, sef y dylai’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen Ffyrdd o Weithio fod yn eitem sefydlog ym mhob cyfarfod, ochr yn ochr â’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Diwygio’r Senedd. 

 

11.3 Yn ogystal, gofynnwyd i'r tîm Clercio drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref.

 

Camau i’w cymryd

·         Darparu diweddariadau corfforaethol ar y broses o gyflawni’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio ym mhob cyfarfod ARAC, ochr yn ochr â’r diweddariadau corfforaethol ar Ddiwygio’r Senedd.

·         Y tîm Clercio i drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref.


Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 12 - Y flaenraglen waith

16.1 Nodwyd y flaenraglen waith, y bydd cael ei rhannu y tu allan i'r pwyllgor i wahodd sylwadau.


Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

ARAC (22-03) Paper 10 – Forward Work Programme

ARAC (22-03) Papur 10 - Y flaenraglen waith

 

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau arfaethedig i’w trafod yn y cyfarfod anffurfiol ym mis Gorffennaf. Byddai blaenraglen waith ddiwygiedig yn cael ei rhannu a’i chyhoeddi ar ôl y cyfarfod hwnnw.

 


Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

ARAC (22-02) Papur 14 – Blaenraglen waith

 

19.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chadarnhaodd y tîm clercio y byddai dyddiad ar gyfer y cyfarfod yn nhymor yr hydref yn cael ei drefnu yn fuan.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

ARAC (05-21) Papur 12 – Blaenraglen waith

15.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

15.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r risgiau diogelu data yn cael eu harchwilio'n feirniadol yng nghyfarfod mis Ebrill. Ychwanegodd y byddai'r cyfarfod ym mis Gorffennaf yn cael ei gadw ar gyfer trafodaethau strategol a bod eitem ar yr agenda ar newid hinsawdd eisoes wedi'i nodi.


Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 21)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

ARAC (05-21) Papur 12 – Blaenraglen waith

21.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a gofynnodd y Cadeirydd i Strategaeth yr Ystâd a'r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu gael eu rhannu y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.


Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

ARAC (03-21) – Papur 16 – Blaenraglen waith

11.1       Anogodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i awgrymu eitemau i’r agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.  Yng nghyfarfod mis Gorffennaf, byddai Fframwaith Sicrwydd wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag eitem i drafod ymgysylltu â'r Comisiwn newydd i benderfynu ar eu teimladau o ran risg.

11.2       Awgrymodd aelodau'r Pwyllgor y dylid ystyried ymgysylltu â'r canlynol, gan gynnwys yr opsiwn o bresenoldeb posibl mewn cyfarfodydd yn y dyfodol:

·         Archwilydd Cyffredinol Cymru

·         Y Comisiynydd Safonau

·         Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

·         Arbenigwyr mewn seiberddiogelwch a seilwaith TG.

Awgrymwyd hefyd y dylid rhannu gwybodaeth am y gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar yr ystâd yn ogystal â'r strategaeth llety yn y dyfodol gyda'r Pwyllgor, gan gynnwys y trafodaethau sydd ar y gweill ar brydles Tŷ Hywel. 


Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

ARAC (02-21) Papur 16 – Blaenraglen waith

20.1      Nid oedd y Pwyllgor am wneud unrhyw newidiadau i’w flaenraglen waith.

21.0      Eitem 20 – Unrhyw fater arall

Eitem lafar

21.1      Ni chodwyd unrhyw fater arall.

 

Roedd swyddogion Archwilio Cymru yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat ag aelodau’r Pwyllgor ar ôl i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chafodd unrhyw gofnodion eu cadw.

Disgwylir i’r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 18 Mehefin 2021.

 


Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)

Y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

16.1    Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw newidiadau i'w gwneud i raglen waith y Pwyllgor.


Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

ARAC (05-20) Papur 10 - Y flaenraglen waith

 

16.1 Byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 13 - Y flaenraglen waith

16.1    Gan na thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i wneud sylwadau y tu allan i'r pwyllgor.

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27 Ebrill 2020.

 


Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 11 - Y flaenraglen waith

18.1 Gan na thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i roi sylwadau y tu allan i'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

ACARAC (04-19) Papur 5 - Y flaenraglen waith

6.1    Er y byddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd blaenoriaeth a amlinellir yn eitem 5 uchod fel mater o drefn, cytunwyd y byddai'r eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y flaenraglen waith i'w hystyried:

·         y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio senarios ar gyfer Brexit yng nghyfarfod mis Hydref;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am brofi ymatebion i ddigwyddiadau seiberddiogelwch fel rhan o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd yng nghyfarfod mis Hydref;

·         gwerthuso'r trefniadau a’r strwythur llywodraethu newydd, h.y. y bwrdd gweithredol a'r tîm arweinyddiaeth;

·         adborth ar ddatblygu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn, gan gynnwys ystyriaethau gan REWAC.

6.2    Cytunodd y Pwyllgor i ystyried sesiwn ar y cyd â REWAC i drafod sut y gallent hwy, ac arbenigwyr allanol o bosibl, ychwanegu gwerth at ddatblygu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu’r Comisiwn.

6.3    Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau gyfrannu unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau pellach at y flaenraglen waith.

6.4    Cytunwyd bod cyflwyniad a gafwyd mewn cyfarfod pwyllgor gan Ganolfan Lywodraethu Cymru yn flaenorol wedi bod yn ddefnyddiol o ran rhoi persbectif allanol ar y sefyllfa wleidyddol, a chytunodd y Cadeirydd i ystyried cael cyflwyniad tebyg ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

7.0      Unrhyw fater arall

7.1    Gofynnodd Nia am farn aelodau'r pwyllgor am feysydd a oedd yn debygol o gael eu codi pan fyddai’n bresennol mewn sesiwn dystiolaeth yn y Pwyllgor Cyllid sydd ar ddod ynghylch Deddf Archwilio'r Cyhoeddus (Cymru), yn enwedig o ran gosod ffioedd archwilio.

7.2    Trafododd y pwyllgor osod ffioedd archwilio yn gyffredinol ar draws y sector cyhoeddus a disgrifiodd Gareth Lucey y broses ar gyfer gosod ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn. Cadarnhaodd y byddent yn parhau i edrych ar ffyrdd o ostwng y ffi ymhellach, er y cytunwyd bod hyn yn anodd oherwydd yr effeithlonrwydd a gyflwynwyd eisoes. Cadarnhaodd hefyd fod yr archwiliadau mewnol o dreuliau Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal ag archwiliadau mewnol eraill, wedi helpu i gadw'r costau i lawr.

7.3        Ychwanegodd Gareth Watts, er bod y cwmpas i ddibynnu ar archwilio mewnol yn gyfyngedig, roedd y protocol gweithio ar y cyd rhwng y Comisiwn a'r SAC wedi helpu i wneud y mwyaf o'r ddibyniaeth honno ac osgoi dyblygu.

7.4        Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor a'u swyddogion am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.

8.0      Sesiwn breifat

8.1        Bu Gareth Lucey mewn sesiwn breifat gydag aelodau'r pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 21 Hydref 2019.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cofnodion:

ACARAC (03-19) Papur 15 - Y flaenraglen waith

14.1     Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor gyflwyno unrhyw sylwadau ar y flaenraglen waith cyn ei gyfarfod â'r tîm clercio.

14.2     Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor a'u swyddogion am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.

 

Bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf ar 15 Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

ACARAC (02-19) Papur 17 - Y flaenraglen waith

14.1     Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddiwygiedig a chytunodd i'r tîm clercio ad-drefnu sesiwn breifat gyda Swyddfa Archwilio Cymru. 

Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 17 Mehefin 2019.

 


Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

ACARAC (01-19) Papur 15 - Y flaenraglen waith

14.1     Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor gadarnhau eu bod ar gael ar gyfer cyfarfod yr hydref ar 21 Hydref 2019 ac i gysylltu â'r tîm clercio ynghylch eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 25 Mawrth 2019.

 


Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

15.1     Byddai hyn yn destun newid yn dibynnu ar awgrymiadau gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd.

 

Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 11 Chwefror 2019.

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 59

Cofnodion:

ACARAC (04-18) Papur 7 - Y flaenraglen waith

9.1     Croesawodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a gofynnodd i’r tîm Clercio sicrhau bod rhaglen gynefino wedi’i chynllunio/wedi’i sefydlu ar gyfer aelodau newydd ACARAC.

 

Trefnwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 26 Tachwedd 2018.

 


Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 62

Cofnodion:

ACARAC (03-18) Y flaenraglen waith

12.1     Trafododd y Pwyllgor yr eitemau a restrir ar y flaenraglen waith ar gyfer mis Gorffennaf.

12.2     Byddai'r tîm clercio yn rhannu agenda ddrafft gydag aelodau'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo modd. 

13.0   Sesiwn breifat

13.1     Roedd Manon Antoniazzi yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat gydag aelodau'r Pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.

 

Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 9 Gorffennaf 2018.

 


Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 20)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 65

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Y flaenraglen waith

20.1     Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu'r eitemau canlynol i'r agenda ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf: sylwadau gan Keith ar ei rôl fel Cynghorydd Annibynnol i'r Comisiwn; diweddariad ar Ddiwygio'r Cynulliad, Brexit, a Llety; canlyniad yr ymchwiliad i Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau; a chyflawni amcanion yr Adolygiad Capasiti. Byddai'r tîm clercio yn diweddaru ac yn dosbarthu'r flaenraglen waith ddiwygiedig.

21.   Sesiwn breifat

21.1     Roedd Gareth Watts yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat gydag aelodau'r Pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.

 


Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 68

Cofnodion:

ACARAC (01-18) Papur 13 - Y flaenraglen waith

11.1     Nododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.

11.2    Roedd y Cadeirydd am atgoffa'r Prif Weithredwr y byddai ei gyfnod fel Cadeirydd ac Ymgynghorydd Annibynnol, yn ogystal â rôl Keith Baldwin fel Ymgynghorydd Annibynnol ac aelod o'r Pwyllgor, yn dod i ben ym mis Hydref 2018.         

11.3     Yn y cyfarfod, cytunwyd i ychwanegu'r eitemau a ganlyn:

-      Pennaeth TGCh a Phennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau i gyflwyno eitem ar Ddiogelwch Seiber yng nghyfarfod mis Ebrill.  

-      Dave i gyflwyno'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer prosiectau/rhaglenni yng nghyfarfod mis Ebrill. 

-      Yr Ysgrifenyddiaeth i weithio gyda'r swyddogion a'r Cadeirydd i benderfynu pa eitemau y gellir eu cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf. 

12.0   Sesiwn breifat

12.1     Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion o’r cyfarfod.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 71

Cofnodion:

ACARAC (05-17) Papur 20 - Y flaenraglen waith

16.1     Nododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.

 

 

Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 5 Chwefror 2018.

 


Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ACARAC (04-17) Papur 7 - Y flaenraglen waith

6.1        Nodwyd y flaenraglen waith ac y byddai'n cael ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor.  

6.2        Yn olaf, soniodd y Cadeirydd am ei gyflwyniad o adroddiad blynyddol ACARAC mewn cyfarfod diweddar Comisiwn y Cynulliad ddydd Llun 17 Gorffennaf.  Croesawyd yr adroddiad gan y Comisiynwyr ac roeddent yn falch o weld ansawdd a chanlyniadau adroddiadau archwilio, a'r ffocws ar ddiogelwch seiber. 

6.3        Roedd hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i gasglu ac adrodd ar gynnydd prosiectau a rhaglenni drwy'r adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol.     

 

Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 27 Tachwedd 2017.