Cyfarfodydd
Cynigion i ddiwygio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
3. Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)
NDM5481
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:
Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau
canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
a) Aelod o Dŷ'r Arglwyddi;
b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli
a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau
Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf
2007 ac 8 Mai 2008.
Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ar
gael yn:
http://www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents
[Saesneg yn unig]
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.13
NDM5481
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:
Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau
canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
a) Aelod o Dy'r Arglwyddi;
b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli
a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau
Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf
2007 ac 8 Mai 2008.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.