Cyfarfodydd

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y gwaith a wnaed eisoes a chan nad yw Llywodraeth Cymru'n rhoi rhagor o gyllid iddo.

 


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Hijinx i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes ffrydiau ariannu ychwanegol wedi cael eu cadarnhau, a pha effaith y mae'r gostyngiad mewn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau wedi ei chael ar ei waith.

 

 


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad gwaith grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfranogiad yn y celfyddydau.

 


Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 CELG(4)-10-11 : Papur 5

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ofyn i grŵp gorchwyl a gorffen gael ei sefydlu i adolygu’r gwaith o weithredu argymhellion yr Adroddiad ar Hygyrchedd Gweithgareddau Celfyddydol a Diwylliannol yng Nghymru a dderbyniwyd gan y Gweinidog;

ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gyfle cyfartal, gan geisio’i barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb;

ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i holi sut y bydd yn penderfynu ar y blaenoriaethau a bennir mewn llythyrau cylch gwaith yn y dyfodol at Gyngor Celfyddydau Cymru ac a fyddai modd i Aelodau gyfrannu iddo.

 


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx - sesiwn tystiolaeth lafar

Mike Clark – Aelod o Fwrdd Theatr Hijinx

Val Hill  - Cyfarwyddwr Gweinyddol, Theatr Hijinx

Gaynor Lougher - Cyfarwyddw Celfyddydol, Theatr Hijinx

Rhodri Glyn Thomas AC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr,gyda chymorth Rhodri Glyn Thomas AC, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn goyn am ei sylwadau ar y ddeiseb.

·               Gwahodd y deisebwyr i gyflwyno tystiolaeth lafar.