Cyfarfodydd

P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad y Gweinidog nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud, ac

·         ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin yn mynegi pryder ynghylch ei ymateb i'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil Treftadaeth arfaethedig ac a fydd yn cynnwys cynigion mewn perthynas â rhestru lleol;

·         Cadw, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y trafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r datblygwr a'r rhesymau pam na ellir rhestru canolfannau chwaraeon; a

·         yr awdurdod lleol, mewn perthynas â rhestru lleol.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn holi a fyddai Cadw'n ystyried cofrestru'r cae chwarae ym Mharc y Strade yn y categori chwaraeon.

 

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         geisio barn y deisebwyr ar ohebiaeth y Gweinidog; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn a fyddai modd cynnwys y ddeiseb fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Bil Treftadaeth arfaethedig.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i aros i’r adroddiad ar ddiogelu treftadaeth chwaraeon yng Nghymru gael ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i:

Anfon yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd at y Gweinidog;

Sicrhau bod y Pwyllgor yn cael copi o adroddiad Cadw ar sut y gellir nodi treftadaeth chwaraeon ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol.

 


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd eglurhad nad cae Parc y Strade oedd testun y cais ‘Village Green’, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddaru, ond ardal yn ystâd ehangach Parc y Strade.

 

Cytunodd y Pwyllgor:

i ddisgwyl am ganlyniadau ymgynghoriad Cadw, a ddisgwylir ym mis Ebrill 2012;
i ysgrifennu at y datblygwyr i holi eu barn.

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i baratoi adroddiad byr, gan ddod a gwahanol agweddau ar y ddeiseb ynghyd.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn ei farn am y ddeiseb ac i egluro a fydd y Bil Diogelu Treftadaeth arfaethedig yn mynd i’r afael â rhai o’r materion ehangach sydd wedi codi wrth i’r ddesieb hon gael ei thrafod, a hynny mewn perthynas â diogelu lleoliadau ac adeiladau o ddiddordeb lleol a chenedlaethol.