Cyfarfodydd
P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011
Dogfennau ategol:
- PET(4)-07-11 p11a - tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- PET(4)-07-11 p11b Gohebiaeth gan y Deisebydd, Eitem 3 PDF 10 KB Gweld fel HTML (3/2) 2 KB
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor:
i gadw’r ddeiseb yn agored nes y cyhoeddir y rheoliadau diwygiedig;
i hysbysu’r deisebwyr nad oes fawr mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, ond y bydd yn dychwelyd at y mater ar ôl i’r rheoliadau gael eu cyhoeddi.
Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011
Dogfennau ategol:
- P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 17 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, Eitem 3 PDF 10 KB Gweld fel HTML (3/2) 15 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
·
Cytunodd y Pwyllgor i hysbysu’r deisebwyr ynghylch y ffaith y bydd Llywodraeth
Cymru’n cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid i nodi’r pryderon ynghylch y ddeddfwriaeth ddrafft wreiddiol, gyda’r bwriad, o bosibl, o gynnwys eu hawgrymiadau mewn deddfwriaeth ddrafft newydd.