Cyfarfodydd

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • Anfon cais y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a gofyn iddo a yw’n barod i ystyried galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau’n ymwneud â datblygu’r Gyfnewidfa Lo; ac
  • ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Caerdydd i ofyn iddo ymateb i'r sylwadau a gafwyd ynglŷn â chywirdeb ei ohebiaeth â'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad y Ceisiadau sydd gyda Cadw ar hyn o bryd a chynllun cadwraeth y datblygwr, a barn y deisebydd ar ôl hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.

 


Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. 

 

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a hefyd gan Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael sylwadau'r deisebydd am lythyr y Gweinidog cyn trafod y ddeiseb eto.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Achub y Gyfnewidfa Lo a’r deisebydd a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth gyda’r sylwadau ychwanegol a gofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf o ran ei dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa ac a yw’n credu bod Cyngor Sir Caerdydd yn defnyddio’i bwerau mewn ffordd briodol; ac wrth wneud hynny

·         anfon copi o’r llythyr at Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Stephen Doughty AS, gyda chais eu bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf. 

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach.

 

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eu hymweliad â'r Gyfnewidfa Lo bythefnos yn gynharach a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei barn ar sylwadau Mr Avent ac a oes unrhyw ddatblygiadau eraill i'w nodi.

 


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:

o   ganiatáu i’r Pwyllgor weld canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol cyn gynted ag y byddant ar gael; ac

o   am ragor o wybodaeth am y broses o ddewis y contractwyr a ddefnyddiwyd i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb, ac yn benodol, pam nad contractwyr CADW a ddefnyddiwyd;

 

·         am gael ymweld â’r tu allan i’r Adeilad, gyda’r deisebydd, fel y gall yr Aelodau gael dealltwriaeth well o gyflwr yr Adeilad.

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ysgrifennu at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac

·         Gofyn i’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         arweinydd Cyngor Caerdydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a gofyn am ragor o wybodaeth am y diddymiad os yw ar gael, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor drefnu ymweliad â’r adeilad;

·         y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn beth yw rôl Llywodraeth Cymru yng ngoleuni diddymiad y cwmni daliannol; a

·         Stephen Doughty AS, gan anfon copi at Vaughan Gething AC, i dynnu ei sylw at y ddeiseb a gofyn am y diweddaraf am ei ymgyrch.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • Geisio cael cadarnhad o statws perchnogaeth yr adeilad;
  • aros am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd; a
  • pharhau â’r bwriad i ymweld â’r adeilad.

 

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

             y byddai croeso i'r Deisebydd ymweld â safle'r Gyfnewidfa Lo; a

             chael adroddiad Cabinet Ionawr 2014 gan y Cyngor a'i rannu ag Aelodau cyn yr ymweliad.

 

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb brys gan Gyngor Dinas Caerdydd i gais y Pwyllgor am wybodaeth ac am ymweliad â’r adeilad.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

  1. y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn ei farn ac am eglurhad ynghylch y defnydd o bwerau o dan adran 78 a nododd y deisebydd;
  2. Cadw, yn gofyn am eglurhad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb o safbwynt Cadw, gan gynnwys sut mae'n sicrhau y glynir at y mesurau i amddiffyn adeiladau o'r math hwn;
  3. Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn gofyn:

Ø  eu barn am y materion a godwyd gan y ddeiseb;

Ø  am ragor o wybodaeth ynghylch eu cynlluniau ar gyfer adeilad y Gyfnewidfa Glo a'r rhesymau tu ôl i'r penderfyniad; ac

Ø  a all y Pwyllgor ymweld â'r adeilad.