Cyfarfodydd

P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-03-310 Polisïau sy’n helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. 

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu barn am y ddogfen sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ac i ofyn iddynt egluro’r geiriaui’w gwneud yn fwy cadarn, yn gryfach ac yn haws i’r cyhoedd fod yn rhan ohoniyn eu deiseb

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar gyfleoedd deddfu i weithredu’r newidiadau i’r broses o drefnu ysgolion ac i nodi’r meysydd y mae’r deisebwyr yn credu sy’n annigonol.