Cyfarfodydd

P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

nodi barn y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau ynghylch yr angen am olau digonol a chanllawiau’r Gweinidog i awdurdodau lleol ynghylch lleihau llygredd golau; a

chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, i nodi enghreifftiau o ddefnydd gormodol o olau stryd ac i ofyn a yw Llywodraeth Cymru’n ystyried y defnydd o oleuadau ar y stryd sy’n diffodd yn llwyr.

·         Ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio, y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, i ofyn am wybodaeth am faint o awdurdodau lleol sy’n mynd i’r afael â llygredd golau yn eu cynlluniau datblygu, ac i ofyn iddo ystyried mabwysiadu dull gweithredu mwy strategol i ymdrin â llygredd golau drwy gyhoeddi canllawiau ar y polisi cynllunio.

·         Ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol Er Atal Damweiniau i ofyn am ei barn ynghylch effaith defnyddio mathau amgen o oleuadau ar strydoedd a chefnffyrdd ar agweddau ar ddiogelwch ffordd.