Cyfarfodydd

P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Lygredd ym Mornant Porth Tywyn

 

NDM5057 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:55

NDM5057 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, y mae rhai newidiadau i’w gwneud iddo, a gofynnodd a fyddai modd i Aelodau Cymru o Senedd Ewrop gael copi pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson fuddiant gan fod y deisebydd yn aelod o’i staff cymorth.

Cytunodd y Pwyllgor i lunio adroddiad byr ar y pwnc ac i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn – sesiwn dystiolaeth lafar

Steve Brown, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Kathryn Monk, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Tony Harrington, Dŵr Cymru

Fergus O’Brien, Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cytunodd Dŵr Cymru i rannu manylion â’r Pwyllgor ynghylch dŵr wyneb a’i waith ar ddraenio cynaliadwy dinesig yn yr ardal.

 

Cytunodd y tystion i ymateb yn ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na chafwyd amser i’w gofyn yn y cyfarfod.

 


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - trafod ymweliad y Pwyllgor â'r safle

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oedd llawer o’r Aelodau a aeth ar ymweliad safle â Phorth Tywyn gyda’r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth sylweddol am yr ymweliad nes y byddai’r Aelodau hynny’n bresennol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water i gyflwyno tystiolaeth lafar mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.