Cyfarfodydd

P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y deisebydd yn diolch iddo am ei ateb ystyriol ac am ymgysylltu â’r broses ddeisebu; a

·         Chau’r ddeiseb, o gofio ei bod yn ymddangos bod digwyddiadau wedi symud ymlaen ers i’r ddeiseb gael ei hystyried ddiwethaf.

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), ei fod yn cael amserlen ar gyfer ystyried y Bil a bod trawsgrifiadau o unrhyw drafodaethau perthnasol yn cael eu hanfon ato.

 


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai’n ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac i ofyn bod y deisebwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-03-236 Siarter i wyrion ac wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wneud cais am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ddulliau pontio’r cenedlaethau a deddfwriaeth er mwyn gallu ei anfon at y deisebydd i gael ei sylwadau.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am yr adroddiad terfynol ar yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ofyn am farn y deisebwr ar adroddiad interim yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol a gofyn a fydd hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y ddesieb.

·               Ysgrifennu at fudiad Families Need Fathers yn gofyn ei farn am y ddeiseb.

·               Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth am y dystiolaeth a roddodd i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.