Cyfarfodydd

Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

NDM5648 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014.

 

Dogfennau Atodol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

 

NDM5648 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni Canser Llywodraeth Cymru a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau. Cytunodd hefyd ar y dull a gaiff ei ddefnyddio i lansio'r adroddiad.

 


Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sydd wedi codi o’r ymchwiliad.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’r Rheoliadau Diogelu Data Ewropeaidd.

 

 


Cyfarfod: 26/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 7

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-Adran Polisi Gofal Iechyd

Chris Jones, Dirprwy Prif Swyddog Meddygol

Carys Thomas, Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         nodyn ar ddarparu triniaeth a gwasanaethau i gleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin ar lefel Cymru-gyfan fel enghraifft o wasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer canserau llai cyffredin;

·         cadarnhad bod y dechnoleg yn ei lle i gefnogi’r gwaith o adrodd yn amserol ar yr adolygiadau o’r achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser gastroberfeddol yr ymdrinnir â hwy gan bob meddyg teulu yng Nghymru yn 2014 ar lefel meddyg teulu, lefel clwstwr meddygon teulu a’r lefel genedlaethol;

·         nodyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y trafodaethau tairochrog ar reoliadau drafft yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu data, a’r effaith bosibl ar ymchwil canser yng Nghymru;

·         y papur a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin i Sgrinio Iechyd Cenedlaethol;

·         nodyn i egluro a oes adnoddau a chapasiti ar gael ar gyfer sgrinio coluddion yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 18/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Sharon Hillier, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Pat Riordan, Cyfarwyddwr Iechyd a Gwella Gofal Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Dyfed Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2. Cytunodd Sharon Hillier i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch nifer y menywod dros 70 oed sy'n hunan-gyfeirio ar gyfer gwasanaethau sgrinio canser y fron.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4

Susan Morris, Cymorth Canser Macmillan

Simon Jones, Gofal Canser Marie Curie

Dr Ian Lewis, Tenovus

Linda McCarthy, Cynghrair Canser Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Emma Greenwood, Ymchwil Canser y DU

Dr Alison Parry-Jones, Banc Canser Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5

Dr Hamish Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mr Damian Heron, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru

Dr Sian Lewis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dr Tom Crosby, Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Rhwydwaith Canser De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Dr Martin O’Donnell, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Alisa Hayes, Coleg Nyrsio Brenhinol

Yr Athro John Chester, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i’r cynnydd hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Rachel Hargest FRCS, Cymdeithas Brydeinig yr Oncolegwyr Llawfeddygol

Dr Martin Rolles, Coleg Brenhinol y Radiolegwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Trafod cynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

1.1 Gwnaeth y Pwyllgor drafod, diwygio a chytuno ar gynllun gwaith ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.