Cyfarfodydd

P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ganlyniad i waith Llywodraeth Cymru a’r gwelliannau a wnaed yn dilyn rhoi’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gaur ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn fodlon ag ymateb y Gweinidog am y pwnc ac, os felly, i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Aros am argymhellion y Gweinidog ar ôl iddi ystyried adroddiad grŵp cynghori Cymru-gyfan ar osteoporosis ar eu harchwiliad o ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt torri esgyrn, a fydd ar gael yn y flwyddyn newydd.


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.

Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.

 


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau hyn.


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am gopi o’r dadansoddiad cost a budd a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith i ddatblygu gwasanaethau cwympo a thorri esgyrn, ac i ofyn a oes gan yr holl fyrddau iechyd lleol gynlluniau i gyflwyno Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn, neu a fydd ganddynt gynlluniau o'r fath, yn ogystal â gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr arolwg o'r Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.